Amdanom Ni
Sefydlwyd Prifysgol Cymru drwy Siarter Brenhinol ym 1893 ac mae wedi chwarae rhan sylweddol yn natblygiad addysg uwch yng Nghymru. Dros y blynyddoedd mae’r Brifysgol wedi addasu er mwyn bod mewn sefyllfa i ymateb i anghenion myfyrwyr, yng Nghymru a thu hwnt.
Ym mis Hydref 2011, ymrwymodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru,Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant i uno. Bydd y tri sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i greu sefydliad unedig dan Siarter 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Gyda sail gref o fyfyrwyr ar draws sawl campws, bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y Brifysgol ar ei newydd weddi yn peidio â bod yn gorff achredu i Brifysgolion eraill yng Nghymru, a bydd yn dod â rhaglenni dilysedig a gynigir mewn canolfannau yn y DU a thramor i ben gan gyflwyno model academaidd newydd.
Yr Is-Ganghellor yw'r Athro Medwin Hughes DPhil DL DPS FRSA.
I weld cwestiynau cyffredin am uno Prifysgol Cymru, cliciwch yma|.
I weld cwestiynau cyffredin sy’n berthnasol i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn benodol, cliciwch yma|.