Diben a Gwerthoedd y Brifysgol
Diben
Mae Prifysgol Cymru yn bodoli i wasanaethu Cymru a'i phobl. Gwnaiff hyn yn y modd canlynol :
-
gweithio'n egniol i gynnal gradd Prifysgol Cymru a brand Prifysgol Cymru fel enghreifftiau byd-eang o ragoriaeth ac ansawdd
-
drwy hynny, cefnogi a hyrwyddo Addysg Uwch (AU) Cymru a chyfrannu'n gadarnhaol ac yn sylweddol at ddelwedd brand a gwerth brand AU Cymru a Chymru'n gyffredinol
-
mewn cydweithrediad a phartneriaeth â sefydliadau prifysgol Cymreig eraill a gydag eraill yng Nghymru, cefnogi a hyrwyddo mentrau strategol o fewn addysg uwch yng Nghymru
-
rhyngweithio â gweddill y byd, drwy ddarpariaeth academaidd gydweithredol a thrwy gysylltiadau a phartneriaethau deallusol a diwylliannol eraill - mynd â'r gorau o Gymru i'r byd a dod â'r gorau o'r byd i Gymru
-
gweithredu fel catalydd a hyrwyddo cyfleoedd arloesi, ymchwil a'r economi
-
defnyddio ei safle wrth galon bywyd academaidd, deallusol a diwylliannol y genedl i ddatblygu, cefnogi a hybu mentrau yn y meysydd hyn; ac
-
ym mhob un o'r gweithgareddau hyn, adeiladu ar ei llwyddiannau yn y gorffennol a'r presennol i sicrhau sefydliad cynaliadwy sy'n cyfoethogi bywyd cenedlaethol Cymru.
Gwerthoedd
Mae Prifysgol Cymru yn gweithio i wireddu ei diben gan gynnal ei gwerthoedd craidd sef:
-
lles Cymru sydd wrth galon popeth y mae'n ei wneud
-
cyflenwi rhagoriaeth ac ansawdd â balchder
-
parchu eraill er mwyn i bawb allu cyfrannu yn y modd gorau bosibl
-
mabwysiadwyd datblygu cynaliadwy fel egwyddor drefniadol sy'n ganolog i'w gweithgareddau
-
ystyried, adolygu, adnewyddu ac arloesi'n barhaus er mwyn cadw'n berthnasol
-
bod yn onest, annibynnol a diduedd, agored a chydweithredol - ymddiriedaeth yw'r sylfaen.