Subject Access Request Procedure
Rhaid i Gais Testun am Weld Data gael ei gyfeirio at y Swyddog Diogelu Data| mewn ysgrifen. Fe’ch gwahoddir i ddefnyddio’n Ffurflen| safonol i wneud hyn, ond nid oes rhaid; bydd llythyr cyffredin yn gwneud y tro.
Sylwer ar y canlynol:
-
Fel rheol, ni chewch wneud y cais ond am ddata personol a ddelir gan Brifysgol Cymru amdanoch chi. Os oes angen i chi wneud cais am ddata rhywun arall, rhaid i chi roi ei ganiatâd ef neu ei chaniatâd hi, mewn ysgrifen, ac wedi ei lofnodi.
-
Bydd y Brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i chi brofi pwy ydych chi. Nid oes dull penodol o wneud hyn, ond gellir gofyn i chi ddarparu rhyw wybodaeth bersonol ategol neu ryw ddogfennaeth bellach megis pasbort.
-
Ni chaiff gwybodaeth ei rhyddhau dros y ffôn.
-
Mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r wybodaeth gael ei chadw’n ôl o dan rai amgylchiadau. Lle bydd y Brifysgol yn penderfynu cadw gwybodaeth yn ôl, rhoddir gwybod i chi yn ysgrifenedig pam mae hyn wedi digwydd. Cewch holi am y penderfyniad hwnnw drwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn y cyfeiriad a nodir isod.
-
Mae’r Ddeddf yn caniatáu i ffi gael ei chodi am ateb Cais Testun am Weld Data, a ffi’r Brifysgol am y gwasanaeth hwn yw £10. Dylid anfon siec bersonol i Prifysgol Cymru gydag unrhyw gais.
Y Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru
Cofrestrfa’r Brifysgol
Rhodfa’r Brenin Edward VII
CAERDYDD CF10 3NS