Gweithio gyda Sefydliadau

Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda thri math o sefydliad neu gorff, a darpara ystod o wasanaethau i’r rhain gan gynnwys dyfarnu ei graddau, diplomâu a thystysgrifau.

Sefydliadau Achrededig| yw’r sefydliadau addysg uwch hynny yng Nghymru y mae’r Brifysgol yn gorff dyfarnu graddau ar gyfer y rhan fwyaf o’u myfyrwyr.

Sefydliadau Perthynol| yw’r sefydliadau addysg uwch hynny yng Nghymru y mae’r Brifysgol yn gorff dyfarnu graddau i nifer bychan o’u myfyrwyr.

Sefydliad â Darpariaeth Ddilysedig |yw’r sefydliadau a chyrff eraill hynny ledled y byd y mae Prifysgol Cymru’n dilysu un cwrs ney fwy o astudiaeth neu ymchwil ar eu cyfer.