Hanes y Brifysgol
Bu Cymru’n adnabyddus erioed am y bri mae’n ei roi ar addysg. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y boblogaeth weithiol yn cydnabod mai addysg fyddai eu llwybr allan o dlodi, ac nid addysg gynradd nac uwchradd oedd penllanw eu huchelgais. Y brwdfrydedd hwn am ddysg a roddodd fod i Brifysgol Cymru, ynghyd â phenderfyniad, heb sôn am haelioni, y werin Gymreig: glowyr, amaethwyr a chwarelwyr, a gyfrannodd i ‘Brifysgol y Werin’, yn agos i gant ac ugain o flynyddoedd yn ôl.
Yr hyn sydd wedi aros ers y dyddiau cynnar hynny - ac na fydd fyth yn newid - yw ein hymrwymiad i wasanaethu pobl Cymru. Rydym ni wedi cyfannu’r cylch: y bobl hyn a’n gwnaeth ni ac felly ein nod yw gwobrwyo eu ffydd drwy roi rhywbeth yn ôl, drwy helpu i gefnogi’r tair agwedd sy’n allweddol i’r genedl fel cymuned gynaliadwy - ei diwylliant, ei hamgylchedd a’i heconomi.