Sicrhau Ansawdd ac Uchafu ym Mhrifysgol Cymru

Mae’r Brifysgol yn ymwybodol fod sicrhau ansawdd yn broses barhaus. Mae’n ymrwymedig i ddiogelu iechyd academaidd ei dyfarniadau a hefyd uchafu ei gweithgareddau’n barhaus a systematig er mwyn sicrhau gwerth ychwanegol i’w myfyrwyr a’i graddedigion.

Cynnal Safonau

Mae safonau academaidd rhaglenni sy’n arwain at ddyfarniadau’r Brifysgol yn cael eu rheoli trwy’r Model Datganoledig ar gyfer sicrhau ansawdd a’r prosesau sy’n llywodraethu gweithgareddau dilysu|. Yn naturiol, mae’r holl bolisïau a gweithdrefnau yn rhoi ystyriaeth i bwyntiau cyfeiriol allanol gan gynnwys deddfwriaeth gyfredol, Seilwaith Academaidd| yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC).  |  

Yn dilyn aildrefnu ei strwythur pwyllgorau llywodraethu academaidd  yn ddiweddar, bellach mae modd monitro darpariaeth addysgu ac ymchwil y Brifysgol yn fanylach. Ynghyd â datblygu egwyddorion strategol ar gyfer ansawdd a safonau academaidd a chyflwyno gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i unrhyw achos sy’n peri gofid, mae hyn yn rhan o gynlluniau’r Brifysgol i gryfhau ymhellach ei systemau i sicrhau safonau ei dyfarniadau.

Sicrhau a Gwella Ansawdd

Tra bo’r mesurau a ddisgrifir uchod hefyd yn sicrhau ansawdd ei dyfarniadau, mae’r Brifysgol, tra’n cynnal yr ansawdd hwnnw, yn fythol awyddus i ymchwilio i bob cyfle posibl all gyfoethogi’r ystod o brofiadau dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr. Mae wedi buddsoddi mewn cyfres o brosiectau uchafu, gan gynnwys:

Drwy waith ei Swyddog Cyswllt Myfyrwyr, mae’r Brifysgol hefyd yn ceisio ailsefydlu ei Chorff i Fyfyrwyr, dan yr enw newydd Fforwm Myfyrwyr Cynghrair Prifysgol Cymru, i sicrhau bod ei gweithgareddau’n cydweddu’n addas i anghenion y gymuned myfyrwyr.