Yr Uned Ddilysu
Er mai yng Nghymru y mae’r mwyafrif o fyfyrwyr y Brifysgol yn astudio, mae hefyd wedd ryngwladol bwysig i waith y Brifysgol. Mae ganddi drefniadau dilysu llwyddiannus iawn sydd wedi ennyn parch mawr yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd tramor. Drwy’r trefniadau hynny galluogir sefydliadau ym mhedwar ban byd i gynnig gradd Prifysgol Cymru o’r un safon â’r radd a gynigir yng Nghymru ei hun.
O ganlyniad, meithrinwyd cysylltiadau gwerthfawr rhwng Cymru a gwledydd eraill, ac wrth gwrs y mae llu o raddedigion y Brifysgol mewn swyddi dylanwadol yn y gwledydd hynny. Yn 2008, roedd dros 20,000 o fyfyrwyr wedi eu cofrestru ar gyrsiau dilysedig y Brifysgol mewn 30 gwlad yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.
Gellir mesur llwyddiant y gwaith dilysu (sydd yn talu amdano’i hun yn llwyr) mewn termau economaidd hefyd: y mae’n allforiad arwyddocaol, gyda thros £2 filiwn y flwyddyn o enillion owledydd tramor. Mae cynnal safonau academaidd y cyrsiau a ddilysir o’r pwys pennaf, fel y mae ar gyfer y cyrsiau a gynigir yng Nghymru.