Mae fy Enw Defnyddiwr a Chyfrinair ar gyfer FyLleI yn anghywir

Cwestiwn:
Mae fy Enw Defnyddiwr a Chyfrinair ar gyfer FyLleI yn anghywir
Ateb:

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r enw defnyddiwr a gadarnhawyd pan oeddech yn cofrestru ar FyLleI| ac yn eich Sefydliad.

Os ydych wedi anghofio neu golli eich cyfrinair, ewch i’r Dudalen Adfer Cyfrinair|, nodwch eich enw defnyddiwr ac fe anfonir ebost atoch gyda’ch cyfrinair

Gofynnwyd i chi pan oeddech yn mewngofnodi am y tro cyntaf a oeddech am ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a ddewiswyd gennych ar gyfer Google i fewngofnodi i FyLleI. Os dewiswyd yr un enw defnyddiwr gennych byddech wedi derbyn ebost yn cadarnhau eich manylion.

Os ydych yn dal i fethu â dod o hyd i’ch enw defnyddiwr yna cysylltwch â’ch sefydliad a byddant yn gallu ei adfer i chi.

Categori:
Enquiries, Graduation

In: Cwestiynau Cyffredin