Swyddogaethau Safonwr

Fel Safonwr PC eich rôl chi yw uchafu ansawdd a datblygu rhaglenni ar gyfer cynllun(iau) dilysedig yng nghanolfan(nau) cydweithredol Prifysgol Cymru.

Caiff un safonwr, o Gynghrair neu Gyfadran Prifysgol Cymru, ei b/phenodi i bob cynllun dilysedig am gyfnod o bum mlynedd. Mae dros 120 o safonwyr yn gweithio i Brifysgol Cymru ar hyn o bryd.

Mae eich rôl yn hollbwysig yn cefnogi a datblygu’r canolfannau cydweithredol ac fel cyswllt academaidd rhwng y ganolfan gydweithredol a Phrifysgol Cymru. Caiff manylion llawn rôl a chyfrifoldebau safonwr eu cyhoeddi yn y Llawlyfr Ansawdd ac mae matrics wedi ei ddatblygu i helpu i ddiffinio sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu rhwng safonwyr a rolau eraill.

Mae’r Uned Ddilysu yn pennu Swyddog Dilysu a Swyddog Sefydliad i bob canolfan gydweithredol; bydd y Swyddog Dilysu’n dod gyda chi ar ymweliadau byrddau arholi ac ef/hi fydd y cyswllt ar faterion gweinyddol ac ansawdd. Byddwch yn delio gyda’r Swyddog Sefydliad ar faterion cofrestru. Bydd dau arholwr allanol hefyd yn cael eu penodi i bob cynllun.