Wedi ei bostio ar 7 Rhagfyr 2011

Ennillydd ysgoloriaeth Polina Kalentsits
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru gyhoeddi bod Ysgoloriaethau blynyddol Price Davies wedi eu dyfarnu i wyth o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Bydd £400 yn cael ei ddyfarnu i bob un o’r myfyrwyr israddedig canlynol: Heather Bell (Blwyddyn 1af), Thomas Goodwin (Blwyddyn 1af), Jordon Lormas (Blwyddyn 1af), Rachel Elizabeth Evans (2il flwyddyn), Laura Susan Kennedy (2il flwyddyn), Catherine Elizabeth Duerden (2il flwyddyn), Polina Kalentsits (3ydd blwyddyn) ac Ashley Cook (3ydd blwyddyn).
Dyfernir ysgoloriaethau Price Davies yn flynyddol ar sail canlyniadau Arholiad yr Ysgoloriaeth Fynediad a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Laura Kennedy, un o enillwyr yr Ysgoloriaeth, sy’n astudio am BSc mewn Daearyddiaeth Ffisegol:
“Rwy’n syfrdan fy mod wedi ennill Ysgoloriaeth Price Davies, gan nad oeddwn i wir yn disgwyl derbyn dim ar ôl sefyll yr arholiadau ysgoloriaeth fynediad. Rwy’n bwriadau defnyddio peth o’r arian fel cymorth ychwanegol yn ystod y tymor a’r gweddill tuag at daith tramor yn yr haf.”
Dywedodd enillydd arall, Polina Kalentsits, sy’n astudio tuag at radd cydanrhydedd mewn Celfyddyd Gain gydag Astudiaethau Ffilm a Theledu:
“Roeddwn wrth fy modd pan sylweddolais fy mod wedi ennill Ysgoloriaeth Price Davies. Roedd yn hwb go iawn i’m hyder bod fy ngwaith celf yn cael ei werthfawrogi gan eraill a’i fod yn werth ei wneud! Rwy’n bwriadau gwario’r arian ar astudiaeth ôl-raddedig mewn peintio.”
Darperir Ysgoloriaethau Price Davies o incwm o gymynrodd i’r Brifysgol ym 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.
Rhaid i ymgeiswyr cymwys fod yn dilyn gradd yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
/Gorffen
Os hoffech ffurflenni cais ar gyfer yr ysgoloriaeth ewch i:
http://www.cymru.ac.uk/en/Scholarships|
Neu anfonwch ebost at awardscymru.ac.uk|
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Prifysgol Cymru wedi penderfynu uno gyda Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Caiff y sefydliad unedig ei uno dan Siarter Frenhinol hanesyddol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae hwn yn benderfyniad hanesyddol ac yn gyfle i’r Brifysgol ar ei newydd wedd barhau i wasanaethu addysg uwch mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Rhagwelir y bydd y tri sefydliad wedi uno erbyn 1 Awst 2012.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Phrifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â’r Swyddog Cyfathrebu, Tomas Llewelyn Barrett t.barrettwales.ac.uk|