Wedi ei bostio ar 23 Tachwedd 2011

Sarah Merry
Mae myfyriwr PhD o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn Efrydiaeth Ôl-raddedig Prifysgol Cymru.
Bydd Sarah Merry, sy’n dod o Swydd Rydychen yn wreiddiol, yn defnyddio’r arian i’w helpu gyda blwyddyn olaf ei PhD.
Bydd yr arian yn cyfrannu at ei hastudiaeth o gyfeillgarwch ar-lein, sy’n cael eu meithrin gan gyfryngau cymdeithasu a seibergymunedau.
Dywedodd Sarah am y dyfarniad:
“Rwy’n falch a breintiedig iawn i dderbyn Efrydiaeth Ôl-raddedig Prifysgol Cymru.
“Rwyf wedi bod yn rhan o gymunedau ar-lein a chyfryngau cymdeithasu ers canol y 1990au, felly mae gwneud PhD sy’n astudio cyfeillgarwch sy’n cael eu creu ar-lein y hynod o gyffrous.
“Mae’n faes o astudio sydd yn dal heb ei ymchwilio digon yn y DU, ond sy’n denu diddordeb rhyngwladol cynyddol.
“Mae cymdeithas yn newid; mae’r rhyngrwyd wedi trawsnewid y ffordd y mae cyfeillgarwch a chymunedau’n datblygu, gyda chysylltiadau’n cael eu llunio’n gynyddol ar sail diddordebau cyffredin, yn hytrach nag agosrwydd daearyddol.”
Tua diwedd y 1990au, daeth yn llawer haws i bobl sefydlu cyfeillgarwch ystyrlon ar-lein.
Ers datblygu’r rhyngrwyd band llydan cyflymder uchel, mae cyfeillgarwch ar-lein wedi newid yn sylweddol - mae’n bosib cynnal sgyrsiau sain a fideo amser real dros y rhyngrwyd gan gynnig lefelau o ryngweithio sydd y tu hwnt i destun plaen.
Graddiodd Sarah Merry mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n barddoni yn ei hamser sbâr.
Darperir Efrydiaethau Ôl-raddedig Prifysgol Cymru o’r incwm o gymynrodd i Brifysgol Cymru ym 1905 gan y diweddar John Eyton Williams o Gaer (1828-1905), a rhan o’r incwm o gymynrodd i’r Brifysgol dan ewyllys y diweddar Arglwydd Morris o Borth-y-gest, Dirprwy Ganghellor y Brifysgol o 1956-1974.
/Gorffen
Os hoffech ffurflenni cais ar gyfer yr Ysgoloriaeth ewch i: http://www.cymru.ac.uk/en/Scholarships|
Neu anfonwch ebost at awardscymru.ac.uk|
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Prifysgol Cymru wedi penderfynu uno gyda Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Caiff y sefydliad unedig ei uno dan Siarter Frenhinol hanesyddol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae hwn yn benderfyniad hanesyddol ac yn gyfle i’r Brifysgol ar ei newydd wedd barhau i wasanaethu addysg uwch mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Rhagwelir y bydd y tri sefydliad wedi uno erbyn 1 Awst 2012.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Phrifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â’r Swyddog Cyfathrebu, Tomas Llewelyn Barrett t.barrettwales.ac.uk|