Wedi ei bostio ar 30 Ionawr 2012

Gareth Richard Vaughan Jones
Mae Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones, sydd yn benodol i raddedigion Prifysgol Cymru, nawr yn derbyn ymgeiswyr.
Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â gradd ac sydd ar hyn o bryd yn astudio newyddiaduraeth neu faterion rhyngwladol ac yn dymuno dilyn gyrfa yn y meysydd hynny.
Daw’r Ysgoloriaeth o incwm Cronfa Goffa a godwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus i goffau enw Gareth Richard Vaughan Jones, oedd yn raddedig o Brifysgol Cymru, ac a laddwyd gan ysbeilwyr ym Mongolia ar 12 Awst, 1935.
Prif amcan yr Ysgoloriaeth yw galluogi’r deiliad i deithio mewn gwledydd tramor gyda golwg ar hwyluso astudiaeth o faterion rhyngwladol.
Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i unigolion graddedig sydd yn bwriadu dilyn neu barhau â chynllun astudio i baratoi ar gyfer gweithio mewn newyddiaduraeth yn canolbwyntio ar faterion rhyngwladol neu ar gyfer mynd i wasanaethau’r Wladwriaeth neu eraill sy’n ymwneud â materion rhyngwladol.
Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Jason Edwards, a raddiodd o Aberystwyth, am ei waith yn adrodd ar dlodi bwyd yn America. Defnyddiodd arian y dyfarniad ar gyfer cyllido prosiect dogfennol a wnaeth fel rhan o’r astudiaethau yn dwyn y teitl Texas: A State of Hunger.
Gallwch ddarllen mwy am Jason a’i ddogfen drwy glicio yma|.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaeth hon a hefyd gweld y rheoliadau llawn a ffurflen gais, cliciwch yma|.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â awardscymru.ac.uk| .