30 mlynedd o Astudiaethau Celtaidd

Wedi ei bostio ar 1 Hydref 2015

Ar ddiwrnod pen-blwydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn 30, Dr Ann Parry Owen sy’n edrych yn ôl ar y newidiadau yn y Ganolfan yn ystod ei gyrfa, cyfraniad y Ganolfan i fywyd Cymru a’i swyddogaeth wrth edrych ymlaen:

Pan agorodd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ei drysau am y tro cyntaf mewn tŷ Sioraidd ar lan y môr yn Aberystwyth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, roeddwn yn teimlo’r cyffro o fod yn rhan o dîm bach o ymchwilwyr oedd yn cychwyn ar brosiect newydd sbon i olygu’r farddoniaeth frawychus o gymhleth a gyfansoddwyd i Dywysogion Cymru’r ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg. Wrth edrych yn ôl, rwy’n sylweddoli mor freintiedig oeddwn i gael ymuno â staff canolfan ymchwil benodol yn arbenigo mewn prosiectau tîm – rhywbeth prin yn y dyniaethau ar y pryd – ac i weithio dan arweinyddiaeth ysbrydoledig Cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan, yr Athro R Geraint Gruffydd. Roedd marwolaeth yr Athro Gruffydd yn gynharach eleni yn golled fawr i ni i gyd, ond mae’r gyfres odidog o saith cyfrol a gynhyrchwyd gan y prosiect hwnnw, Cyfres Beirdd y Tywysogion, yn goffadwriaeth i’w weledigaeth ysgolheigaidd.

Yn 1993 dechreuodd y Ganolfan ehangu ei gweithgareddau gan symud i adeilad pwrpasol y drws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dan ei hail Gyfarwyddwr, yr Athro Geraint H Jenkins, yn fuan roedd tri phrosiect ymchwil yn cyd-redeg, gan ehangu meysydd ymchwil y Ganolfan i gynnwys hanes cymdeithasol y Gymraeg, diwylliant gweledol Cymru, yr ieithoedd Celtaidd cynnar a Rhamantiaeth yng Nghymru. Roedd yr adeilad newydd hefyd yn gartref i uned Geiriadur Prifysgol Cymru, gan sicrhau statws y Ganolfan fel pwerdy ar gyfer Astudiaethau Cymreig.

Gyda’r ehangu hwn cefais y cyfle i arwain fy mhrosiect ymchwil fy hun, Beirdd yr Uchelwyr, â’r nod o olygu’r corff enfawr o farddoniaeth lawysgrifol yr Oesoedd Canol hwyr. Er mwyn cyflawni hyn datblygais arbenigedd mewn cysodi a chyhoeddi digidol, a chynhyrchu cyfres dan wasgnod y Ganolfan, gyda chyfanswm o bedair cyfrol a deugain bellach, sy’n cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth Gymraeg ar ei gorau. Pan edrychaf ar y rhes hon o gyfrolau ar fy silff, rwy’n ymfalchïo i ni ddadorchuddio rhywfaint o gyfoeth cudd y traddodiad barddol Cymraeg.

Gwobrwywyd llwyddiannau’r Ganolfan gyda chanlyniad rhagorol yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008, a gadarnhaodd ei statws fel canolfan ryngwladol o ragoriaeth mewn Astudiaethau Celtaidd. Ond mae’r amgylchedd academaidd yn un o newid parhaus, a’r her i ni yw addasu ein dulliau o weithio i ymateb yn gadarnhaol i’r newidiadau hynny. Mae technoleg ddigidol wedi’n galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach o lawer drwy osod ein hymchwil ar-lein am ddim. Rwyf i bob amser yn benderfynol o gynnal traddodiad ysgrifennu academaidd yn y Gymraeg, ond hefyd yn awyddus i’n gwaith fod ar gael i’r di-Gymraeg, ac mae cyhoeddi ar-lein yn caniatáu i ni wneud y ddau ar yr un pryd, fel y gwnaethom drwy gyflwyno gwaith y bardd mawr o’r bymthegfed ganrif Guto’r Glyn ar wefan www.gutorglyn.net.

Elfen arall o’r newid mewn addysg uwch rwyf i’n ei chroesawu yw’r pwyslais ar yr hyn a elwir yn effaith ein hymchwil y tu hwnt i academia, sut mae’n cyfrannu at ansawdd bywyd pobl. Rydym ni wastad wedi pwysleisio pwysigrwydd ein cyswllt â’r cyhoedd, ond yn bennaf drwy ddigwyddiadau yma yn y Ganolfan. Dros y blynyddoedd diweddar rydym ni wedi dechrau cyflwyno ein hymchwil i’r cyhoedd ar draws Cymru, yn aml mewn partneriaeth gyda chymdeithasau lleol, fel y diwrnod astudio a gynhaliwyd ar y cyd â Chymdeithas Brycheiniog yn gynharach eleni. Mae’n foddhad mawr i mi weld bod fy ngwaith o ddiddordeb ac o werth i’r cyhoedd.

Mae rhaglen brysur o ddigwyddiadau cyhoeddus ynghlwm â’r prosiect diweddaraf rwy’n gweithio arno, Cwlt y Seintiau yng Nghymru, gan ddechrau’r wythnos ddiwethaf gyda gweithdy yn Eglwys Gadeiriol Bangor i nodi gŵyl Deiniol, ac un arall yn Llanilltud Fawr ar 7 Tachwedd (gweler www.welshsaints.ac.uk am ragor o fanylion). Un o fy nghyfraniadau i’r prosiect hwn fydd paratoi golygiadau digidol newydd o ddarnau gan Feirdd y Tywysogion sy’n canmol y saint, fydd yn gyfle i mi edrych o’r newydd ar y deunydd y bûm i’n gweithio arno ar ddechrau fy ngyrfa ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau tîm ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Bu Dr Ann Parry Owen yn aelod o staff ers y dechrau ac fe’i dyrchafwyd yn Ddarllenydd yn 2007. Ei phrif faes ymchwil yw barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn y Western Mail ddydd Iau 1 Hydref 2015

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori