Ein menter masnachol, Awen, nawr ar agor

Wedi ei bostio ar 26 Ionawr 2010
awen-cym-logo

Mae Prifysgol Cymru yn falch i gyhoeddi fod ein menter fasnachol ‘Awen Cymru Cyf’ bellach wedi dechrau ar ei busnes!

Daw’r enw ‘Awen’ o arwyddair y Brifysgol sef ‘Gorau Awen Gwironedd.’ Bydd Awen yn cael ei rhedeg fel endid ar wahân i Brifysgol Cymru yn llwyr gyda’i staff, ei bwrdd a’i gweithdrefnau penderfynu ei hun. Y rheswm dros sefydlu Awen yw annog a gweithredu amrywiaeth eang o weithgareddau masnachol y Brifysgol. Bydd Awen yn gyfrifol am nwyddau’r Brifysgol ynghyd â’r tystysgrifau arddangos sydd eisoes ar gael a bydd yn cynnig cymorth allweddol i raglen lwyddiannus y Brifysgol, yr Academi Fyd-Eang, sy’n dod â’r sector breifat yng Nghymru a graddedigion disgleiriaf y byd at ei gilydd. Bydd Menter Gwybodaeth a mentro yn ffurfio ffocws sylfaenol i ddyfodol Awen.

awen - steve owen

Penodwyd Stephen Owen, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes newydd Prifysgol Cymru yn Gyfarwyddwr Rheoli Awen. Daeth Stephen i’r Brifysgol o gefndir busnes mewn meddalwedd Peirianneg Strwythurol. Fel Peiriannydd Sifil a Morol siartredig, bu Stephen yn rhedeg cangen Ryngwladol y rhiant-gwmni Americanaidd, Periannwyr Ymchwil, (bellach o dan reolaeth Bentley Systems), am ddwy flynedd ar hugain. Roedd ei waith yn cynnwys gweithredu fel aelod o fwrdd y cwmni oedd ar restr Nasdaq yn UDA yn ogystal â bod yn gyfrifol fel cyfarwyddwr yn Ffrainc, yr Almaen a’r DU. Roedd ei diriogaeth yn cynnwys popeth y tu allan i UDA, Canada a rhannau o Asia.

Mae Stephen wedi bod yn meithrin y fenter newydd drwy ei chyfnod datblygu ac mae’n gyffrous iawn wrth ystyried y posibiliadau:

“Roedd hi wastad yn fwriad i mi ddychwelyd i Gymru a defnyddio’r profiadau busnes gwerthfawr yr oeddwn i wedi dod ar eu traws yn y gorffennol i helpu i hybu Cymru i’r byd. Mae’r cyfle hwn yn cynnig yr union dasg honno i mi ac rwyf i’n credu y bydd y dyfodol yn gyffrous, yn heriol ac yn talu ar ei ganfed, gyda chefnogaeth y Brifysgol a’i Chynghrair yn hanfodol i’n llwyddiant.”

Esboniodd Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru pam fod gallu busnes yn hanfodol i sicrhau fod sefydliad fel y Brifysgol yn parhau i ffynnu yn ogystal â goroesi yn yr hinsawdd economaidd gyfredol:

“Mae hwn yn gyfnod arbennig ac arwyddocaol iawn i Brifysgol Cymru. Rydym ni newydd gyhoeddi ein hysgolhaig POWIS cyntaf ac mae nifer o gyhoeddiadau cyffrous eraill ar y ffordd! Mae menter Awen yn holl bwysig i ddatblygiadau’r dyfodol gyda’r Brifysgol yn yn cofleidio busnes fel llwyfan ar gyfer llwyddiant creadigrwydd a rôl y myfyriwr. Ar ôl cyfarfodydd diweddar gyda nifer o gwmnïau, mae’n glir fod aelodau o’r sector wrth eu bodd gyda phwyslais y Brifysgol ar y ffactor busnes a gyda’n cynlluniau mewnol arloesgar.”

Mae Awen hefyd newydd benodi Rheolwr Trosglwyddo Technoleg, Dr Marcus Heuberger, sy’n wreiddiol o Pfrozheim yn yr Almaen, ond sydd bellach yn byw yn Abertawe.

awen-employee Mae Marcus yn arbenigwr amlieithog mewn masnachu a rheoli Eiddo Deallusol, yn enwedig mewn busnes technoleg uchel. Tan yn ddiweddar roedd yn gyfrifol am reolaeth fasnachol eiddo deallusol Prifysgol Abertawe drwy ‘UWS Ventures Ltd’. Mae hefyd wedi gweithio i Sefydliad Weizmann yn yr Almaen a Sefydliad Paul Scherrer yn y Swistir.

Bydd Marcus yn gyfrifol am gysylltiadau clos Awen â chwmnïau busnes yng Nghymru. Mae’r cynlluniau a’r mentrau cyfredol yn eang a bydd sgiliau Marcus yn annog cyswllt â chwmnïau yn y dyfodol i uchafu gwerth a thwf potensial yn y gwahanol sectorau. Mae’r cysylltiadau clos ag academia yn hybu sgiliau soffistigedig a fydd yn cael eu defnyddio gan gwmnïau i greu buddion a hybu Cymru yr un pryd.

Dywedodd Marcus:

“Dwi wrth fy modd i fod yn ran o’r fenter newydd hon gyda Phrifysgol Cymru ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at gyfarwyddo ei llwyddiant yn y dyfodol. Mae’n bleser i fod yn ran o dîm creadigol sydd yn gobeithio cael effaith bositif ar yr economi gwybodaeth yma yng Nghymru. Dwi’n edrych ymlaen at sbarduno’r ystod eang o weithgareddau busnes fydd yn cael eu hysbrydoli gan y byd academaidd.”

/Diwedd

I gael gwybodaeth i’r Wasg a’r Cyfryngau, cysyllter â Joanna Davies, Pennaeth Cyfathrebu, Prifysgol Cymru.

cyfryngaucymru.ac.ukFfôn| : 07534 228754

I gael gwybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk|

 

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori