Wedi ei bostio ar 28 Tachwedd 2011

Curtis Colcombe
Mae dau fyfyriwr o Aberfan wedi ennill Ysgoloriaeth Aberfan Prifysgol Cymru werth £1000 yr un.
Bydd Ruth June Williams a Curtis Colcombe, sy’n fyfyrwyr yn eu hail flwyddyn yn y brifysgol, ill dau yn derbyn y dyfarniad i’w helpu gyda cham nesaf eu haddysg
Ar hyn o bryd mae Williams yn astudio am radd BA mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ac yn gobeithio mynd yn athro, ac mae Colcombe yn dilyn cwrs BSc mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd gyda golwg ar fod yn athro Addysg Gorfforol.
Ar ennill y wobr, dywedodd Colcombe:
“Rwyf wrth fy modd i fod mor lwcus ag ennill yr ysgoloriaeth.
“Byddaf yn defnyddio’r arian i’m helpu gyda chostau byw oddi cartref.”
Ym 1968, cyflwynodd Cymdeithas Gymraeg San Francisco gronfa goffa i Brifysgol Cymru ar gyfer plant trychineb glofaol Aberfan.
Ddwy flynedd yn gynharach, bu farw 116 o ddisgyblion pan gwympodd tomen lo wastraff ar eu hysgol yn ystod gwersi’r bore.
Mae’r ysgoloriaeth bellach yn annog a chynorthwyo myfyrwyr o Aberfan a Chwm Merthyr i ddilyn addysg uwch.
Caiff yr ysgoloriaeth o £1000 ei dyfarnu’n flynyddol gan Brifysgol Cymru i bobl ifanc o oedran ysgol yr oedd eu rhieni’n byw yn Aberfan adeg y trychineb, neu i berson o’r un oed sy’n byw ym Merthyr.
Caiff yr arian ei ddyfarnu i ddau neu fwy o ymgeiswyr cymwys a gellir ei adnewyddu am hyd at 3 blynedd.
/GORFFEN
Am ffurflenni cais ar gyfer yr Ysgoloriaeth, ewch i:
http://www.wales.ac.uk/en/Scholarships/ScholarshipRecords/AberfanChildrensScholarship.aspx|
Neu anfonwch ebost at awardscymru.ac.uk|
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Prifysgol Cymru wedi penderfynu uno gyda Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Caiff y sefydliad unedig ei uno dan Siarter Frenhinol hanesyddol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae hwn yn benderfyniad hanesyddol ac yn gyfle i’r Brifysgol ar ei newydd wedd barhau i wasanaethu addysg uwch mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Rhagwelir y bydd y tri sefydliad wedi uno erbyn 1 Awst 2012.
Am ragor o wybodaeth ar Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tomas Llewelyn Barrett, Swyddog Cyfathrebu - t.barrettcymru.ac.uk|