Wedi ei bostio ar 10 Ionawr 2012

Yr Athro Simon Haslett
Mae effaith posib llifogydd ar ddyffryn afon yng Nghymru yn fwy yn awr nag y bu am ganrifoedd – dyna ganfyddiad astudiaeth a gynhaliwyd gan Wyddonydd o Brifysgol Cymru, yr Athro Simon Haslett.
Mae’r astudiaeth, a gymerodd 10 mlynedd i’w chwblhau, wedi datgelu rhai darganfyddiadau rhyfeddol am effaith cynnydd yn lefel y môr a datblygiad amaethyddiaeth ar Ddyffryn Afon Wysg yn Sir Fynwy.
Yn ôl yr Athro Haslett, mae dyddodion yn Nyffryn Afon Wysg hefyd yn cynnig cliwiau ynglŷn â rôl hinsawdd a gweithgaredd dynol yn llunio tirwedd Cymru ers Oes yr Iâ.
Mae ymchwil yr Athro Haslett, sydd wedi ei gyhoeddi gan y Geological Society of America, wedi canolbwyntio ar y dyddodion a adawyd gan afonydd mewn gorlifdiroedd yn ne ddwyrain Cymru, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau daearegol, daearyddol ac archeolegol yn ei ymchwiliad. Dywedodd:
“Mae dyddodion gorlifdiroedd yn cael eu gadael pan fydd afon yn gorlifo gydag o leiaf un haen o waddod fel arfer yn cael ei dyddodi bob blwyddyn; mae’r dyddodion blynyddol hyn yn cofnodi newidiadau amgylcheddol yn debyg iawn i gylchoedd coeden.”
Gorlifdiroedd system yr afon Wysg yn Sir Fynwy yn ne ddwyrain Cymru oedd canolbwynt yr astudiaeth. Cawsant eu dewis oherwydd y dyddodion coch trwchus sydd wedi cronni yno a’r ffaith fod yr Afon Wysg yn llifo i Aber Afon Hafren – y dywedir sydd â’r amrediad llanw ail fwyaf yn y byd.
Mae’r astudiaeth yn dangos i’r gorlifdir ddod i fodolaeth tua 6500 o flynyddoedd yn ôl yn ystod Oes y Cerrig. Roedd hyn yn gyfnod pan oedd rhewlifoedd a llenni rhew Oes yr Iâ wedi toddi ac wedi codi lefel y môr yn gyflym i orlifo arfordir De Cymru.
Cyn y cyfnod hwn, roedd yr afonydd yn llifo’n gyflym trwy’r ardal hon ar eu taith i’r môr pell, ond cawsant eu dal yn ôl a’u gorlifo gan y cynnydd cyflym yn y môr. Yr arwydd cyntaf o hyn oedd dyfrlenwi tirwedd Oes yr Iâ a ffurfiant mawn nifer o filltiroedd i mewn i’r tir.
Ychwanegodd yr Athro Haslett:
“Fe allai senario o ddyfrlenwad arwyneb o’r fath a gorlifiad cynyddol afonydd ddigwydd eto yn y dyfodol, nid o anghenraid oherwydd newid hinsawdd, ond os caiff morglawdd ei adeiladu ar draws Aber Afon Hafren i harneisio ynni’r llanw mae arbenigwyr wedi dweud y bydd hyn yn achosi cynnydd yn lefel y môr o ryw dri metr yn y fan a’r lle.”
Mae olion y cynnydd mewn amaethyddiaeth yng Nghymru hefyd i’w weld yng nghofnod y gorlifdir. Dengys yr ymchwil gynnydd ar ei ddegfed mewn dyddodion gorlifdir ers cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n debygol fod y cynnydd hwn o ganlyniad i ddatgoedwigo parhaus ar fryniau dalgylch yr afon, a hefyd oherwydd cynnydd mewn aredig oherwydd newid yn nefnydd y tir.
“Un canlyniad o’r cynnydd hwn” meddai’r Athro Haslett “yw y byddai trefi sy’n gorwedd o fewn dyffrynnoedd yr afon yn dioddef mwy o effeithiau gorlifo wrth i'r dyddodion gael eu gadael.
“Er enghraifft, pan adeiladodd y Rhufeiniaid gaer Brynbuga ar esgair o raean rhewlifol yn Nyffryn Wysg yn y ganrif gyntaf OC, roedd y gaer yn gorwedd rhyw fetr a hanner yn uwch uwchben y gorlifdir nac y mae tref Brynbuga fodern sydd bellach ar yr un safle.”
“Bob blwyddyn, ers amser y Rhufeiniaid, mae llai o le i ddal llifddyfroedd, yn fwy felly oherwydd amaethyddiaeth, felly mae effaith posib llifogydd wedi cynyddu ac mae’r dref wedi dioddef llifogydd gwael sawl gwaith yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn dilyn y llifogydd mawr diwethaf ym Mrynbuga ym 1979 adeiladwyd amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd i amddiffyn y dref.”
Er bod yr astudiaeth hon yn canolbwyntio ar un dyffryn afon ar hyn o bryd, mae’r canlyniadau’n awgrymu ei bod yn gyffredinol gynrychioliadol o afonydd sy’n llifo i Aber Afon Hafren. Mae gwaith pellach ar y gweill, yn benodol i gasglu mwy o oedrannau dyddodion trwy ddyddio darganfyddiadau archeolegol a hefyd trwy ddefnyddio radiocarbon i ddyddio mawn a gweddillion organaidd eraill o fewn dyddodion y gorlifdir.
Simon Haslett yw Athro Daearyddiaeth Ffisegol a Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt Prifysgol Cymru, a Deon STEM yng Nghyfadran Prifysgol Cymru.
/GORFFEN
Nodiadau i Olygyddion:
Mae blog yr Athro Haslett ar gael ar http://profsimonhaslett.blogspot.com/2012/01/flood-history-in-south-wales-valley.html|
I ddarllen papur yr Athro Haslett i’r Geological Society of America http://specialpapers.gsapubs.org/content/476/93.short|