Deon newydd STEM i ymuno â Phrifysgol Cymru

Wedi ei bostio ar 26 Awst 2010
simonhaslett

Athro Simon Haslett

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru groesawu’r Athro Simon Haslett i swydd Deon yr ysgol newydd o STEM.

Cyn hyn, yr Athro Haslett oedd Cyfarwyddwr y Ganolfan er Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, lle bu’n cyfarwyddo ymchwil pedagogaidd sefydliadol. Ef oedd Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol y Gwyddorau a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Spa Caerfaddon cyn hynny. Yn 2005, dyfarnwyd i’r Athro Haslett y teitl Athro Daearyddiaeth Ffisegol er anrhydedd.

Bu’n addysgu ar raglenni is-radd ac ôl-radd trwy gydol ei yrfa ddysgu, mewn Daearyddiaeth, Gwyddor Daear a’r Amgylchedd, mewn swyddi blaenorol y bu ynddynt ym Mhrifysgol East Anglia (Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol) a Phrifysgol Durham (Yr Adran Ddaearyddiaeth). Dyfarnwyd iddo hefyd Ysgoloriaeth Fulbright er mwyn ymgymryd ag ymchwil yn Sefydliad Eigioneg Scripps ym Mhrifysgol Califfornia, San Diego.

Newidiadau hinsawdd, esblygiad arfordirol ac eigioneg, gan gynnwys ymchwydd arfordirol, newidiadau yn lefelau’r môr, ac effaith digwyddiadau egni uchel, megis tswnami a stormydd, yw prif feysydd ei ymchwil i wyddor daeryddiaeth. Mae hefyd yn Gymrawd etholedig o’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a Chymdeithas Ddaearyddol Llundain.

Mae’r Athro Haslett wedi derbyn amryw o ddyfarniadau a grantiau ymchwil o sefydliadau megis y Gymdeithas Linnaean a’r Cyngor Ymchwil i Amgylchedd Naturiol, er mwyn ei alluogi i ymgymryd ag ymchwil i ymateb cefnforoedd i newidiadau hinsawdd (gan gynnwys newid yn lefelau’r môr). Hefyd, cymerodd ran flaenllaw yn nghynhyrchiad nifer o raglenni dogfen i deledu’r BBC, a chyfrannodd i gyfresi megis Coasts ar BBC2.

Dywedodd yr Athro Haslett:

‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno â Phrifysgol Cymru ac ymgymryd â’r rôl newydd a hanfodol hon, ar adeg gyffrous a hanesyddol i’r sefydliad. Bydd fy mhrofiad eang o Addysg Uwch yn fy ngalluogi i arwain at sefydlu Ysgol yr newydd GTPM yn llwyddiannus fel ei Deon cyntaf, gyda gweledigaeth i ddatblygu iddi enw rhyngwladol am ragoriaeth mewn addysgu a dysgu, ansawdd darpariaeth, ac ymchwil ac ymgynghoriaeth yn y pynciau GRPM.’

Ychwanegodd yr Athro Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru:

Rydym yn croesawu apwyntiad yr Athro Simon Haslett i staff academaidd y Brifysgol. Mae ganddo sgiliau arwain ardderchog a phrofiad dysgu gweithredol a fydd yn ddelfrydol ar gyfer y rôl yma sy’n gyfrifol am y dasg allweddol o ddatblygu ein Ysgol newydd o STEM. Bydd yr Athro Haslett hefyd yn cymryd rhan flaenllaw o sefydlu, mewn partneriaeth â'I gyd-ddeoniaid, sylfeini cadarn ar gyfer Cyfadran y Brifysgol.

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch at: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru, os gwelwch yn dda, ar t.barrettcymru.ac.uk|

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori