Wedi ei bostio ar 4 Ionawr 2010
Mae Prifysgol Cymru yn falch o gyhoeddi ei bod wedi penodi Pennaeth Cyfathrebu newydd, Joanna Davies.
Cyn hyn Joanna, sydd yn wreiddiol o Gorslas, Sir Gaerfyrddin, oedd yn gyfrifol am reoli’r Wasg a’r Cyfryngau i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mynychodd Ysgol Ddwyieithog Maesyryfa, Cefneithin, cyn ennill Ysgoloriaeth Evan Morgan i astudio yn beth oedd, bryd hynny, yn Brifysgol Cymru Aberystwyth. Wedi cwblhau gradd MPhil mewn Astudiaethau Cyfryngau, treuliodd Joanna ddeng mlynedd fel Cynhyrchydd Teledu a Rheolwr Marchnata i ITV1 Cymru, S4C a BBC Cymru cyn ymuno â Chyngor y Celfyddydau.
Mae Joanna hefyd yn awdur, ac mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol, ‘Y Taff Pac’, (Y Lolfa), bywgraffiad o actorion ifanc Cymreig ac yn fwy diweddar, ‘Ffreshars’, (Gomer), sy’n adrodd anturiaethau tri myfyriwr israddedig ifanc ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau’r 1990au. Yn ddiweddar cwblhaodd fersiwn Saesneg estynedig o’r nofel, ‘Freshers’ a chaiff ei chyhoeddi gan Wasg Honno ym mis Mawrth 2010. Derbyniodd Grant Awdur sylweddol gan yr Academi, Asiantaeth Llenyddiaeth Cymru, y llynedd. Mae Joanna hefyd yn Gerddor ac yn bencampwr Accordion Cymru.
Wrth sôn am ei swydd newydd gyda Phrifysgol Cymru, dywedodd Joanna:
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r Brifysgol, wrth iddi ganolbwyntio ar ei rôl yn gwasanaethu Cymru a’i phobl. Rwyf i’n gobeithio y byddaf i’n gallu cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant parhaus y Brifysgol ar y llwyfan byd-eang.”
Dywedodd Alwena Morgan, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Prifysgol Cymru:
“Mae’r Brifysgol yn ffodus iawn i gael unigolyn â phrofiad, arbenigedd a thalent Joanna ar yr adeg hon. Bydd gwaith Joanna yn hanfodol i gynorthwyo’r Brifysgol i gyfathrebu ei neges o fynd â’r gorau o Gymru i’r byd a dod â’r gorau o’r byd i Gymru.”
/Diwedd
I gysylltu â Joanna, e-bostiwch: j.davieswales.ac.uk| neu ffoniwch 029 2037 6907