Cymeradwyaeth Frenhinol i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Wedi ei bostio ar 23 Gorffennaf 2010
lampeter

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Foto: Copyright 2010 Independent Ltd)

Mewn cyfarfod o’r Cyfrin Gyngor a gynhaliwyd ym Mhalas Buckingham ar 21ain Gorffennaf 2010 rhoddod Ei Mawrhydi y Frenhines orchymyn i gomisiynu Siarter Frenhinol Atodol ar gyfer Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Rhoddodd orchymyn i’r Arglwydd Ganghellor roddi'r Sêl Brenhinol ar y Siarter newydd.

Mae’r Siarter hon yn caniatâu i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan gyfuno gyda Choleg Prifysgol y Drindod i greu prifysgol newydd a enwir yn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae hwn yn ddigwyddiad hanesyddol sy’n dwyn ynghyd y ddau sefydliad Addysg Uwch hynaf yng Nghymru er mwyn creu model radical newydd o addysg ôl-16 yn y rhanbarth.

Dywedodd Dr Medwin Hughes, Is-Ganghellor “Mae hyn yn ddigwyddiad hanesyddol. Rydym yn uno dau sefydliad addysg uwch hynaf Cymru - sefydlwyd Llanbedr Pont Steffan yn 1822 a’r Drindod 1848. Bydd gan ein Prifysgol newydd y Siarter Brenhinol hynaf o holl brifysgolion Cymru a Lloegr, heblaw am Rydychen a Chaergrawnt. Bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig i Gymru prifysgol ddinesig a fydd yn berthnasol i angen y genedl wrth iddi ail-ddiffinio cenhadaeth sefydliadau dinesig yn y 21fed Ganrif.

“Rydym yn cydnabod y £14.3 miliwn o gyllid a gafwyd o du Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer sefydlu’r Brifysgol. Mae hyn yn arwydd clir o hyder ac ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad yn y weledigaeth o ddatblygu addysg uwch yn Ne Orllewin Cymru. Dros y blynyddoedd nesaf bydd yr arian hyn yn trawsnewid campws Llambed a Chaerfyrddin. Yr ydym eisoes wedi dechrau ar ddatblygiadau cyfalafol ar gost o filiynau er mwyn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a staff.”

Bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi eleni.

/Diwedd

Nodyn i olygyddion:

Am ragor o wybodaeth cysyllter ag: Eleri Beynon yng Ngholeg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin ar 01267 676790 neu e.beynontrinity-cm.ac.uk| neu neu Jane Norris-Hill ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ar 01570 424799 neu j.norris-hilllamp.ac.uk|
 
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch at: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk||

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori