Wedi ei bostio ar 17 Awst 2010

'Pride and Prejudice'
Ewch yn ôl mewn amser gyda Chwmni Theatr Chapterhouse wrth i ni gyfarfod ag Elizabeth Bennet a’i chwiorydd ar Ddydd Mercher, 18 Awst am 7.30yh. Bydd y cwmni’n cynnal perfformiad awyr-agored o’r fersiwn ddramatig o’r nofel boblogaidd, ‘Pride and Prejudice’ yn Neuadd Gregynog, Prifysgol Cymru.
Mae’n stori sydd wedi bod yn boblogaidd ers 200 mlynedd diolch i grefft yr awdures Jane Austen. Mae’r Fonesig Bennet, y fam sy’n benderfynol o ddarganfod partneriaid llewyrchus i’w merched yn gwthio’i merched hŷn, Elizabeth a Jane, i briodi unrhyw un sy’n medru cynnig arian a sicrwydd iddynt. Ond mae’r merched yn dilyn eu llwybrau eu hunain ac ar ôl nifer o droeon trwstan a thorcalon daw llawenydd i’w rhan diolch i Mr Darcy, y gŵr carismataidd a balch a’i gyfaill pennaf, Mr Bingley. Ac er ei hoedran mae’r stori mor ffres a phoblogaidd ag erioed.
Gallwch fwynhau’r ddrama a phryd ysgafn yn yr awyr agored yng ngerddi prydferth ystad Gregynog, sy’n leoliad perffaith i’r stori bythwyrdd hon. Archebwch eich tocynnau nawr trwy ffonio Neuadd Gregynog: 01686 650 224 neu trwy ymweld â’r wefan: www.seetickets.com neu ffoniwch 0871 2200260.
/Diwedd
Am fwy o wybodaeth am Neuadd Gregynog sy’n ran o Brifysgol Cymru ewch i:
www.cymru.ac.uk/gregynog|
Am wybodaeth am Gwmni Theatr Chapterhouse ewch i:
http://www.chapterhouse.org/|
Am wybodaeth cyffredinol am Brifysgol Cymru ewch i:
www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth y wasg a’r cyfryngau cysylltwch gyda Tom Barrett:
t.barrettcymru.ac.uk|