Wedi ei bostio ar 12 Awst 2010

Adrian Davis
Mae Prifysgol Cymru’n adnabyddus am ei haelioni a’i phwyslais ar addysg bellach, ac mae wedi darparu nifer o Ysgoloriaethau Ôl-radd mewn ymgais i’w gwneud hi’n haws i rai â chanddynt record academaidd o fri i ddilyn addysg ôl-radd.
Un a dderbyniodd ysgoloriaeth ymchwil gynhwysfawr i astudio yw Adrian Davis, ymchwilydd PhD mewn Archaeoleg ac Anthropoleg yn y sefydliad unedig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, sydd newydd ei ffurfio (Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg y Drindod gynt). Yma, datgela sut y bu i’r ysgoloriaeth ymchwil ei gynorthwyo hyd yn hyn.
Pam wnaethoch chi gais am Ysgoloriaeth Prifysgol Cymru (PC)?
Roedd y pecyn ymchwil drwyddo draw, oedd yn cynnwys ffioedd, taliadau tuag gostau byw ac ysgoloriaeth ymchwil hael, yn ddeniadol imi.
Pa effaith mae hyn wedi’i gael ar eich gyrfa?
Mae’r ysgoloriaeth wedi effeithio’n gadarnhaol iawn ar fy nghynlluniau i hyfforddi fel ymchwilydd cyhoeddedig a chymrawd addysgu mewn sefydliad addysg uwch. Arweiniodd gweithio ar brosiect ymchwil ar gampws at sawl cyfle i addysgu, sydd yn eu tro wedi cryfhau fy ymchwil a chryfhau fy CV academaidd yn ddirfawr.
Allwch chi sôn ychydig am eich ymchwil?
Prosiect traws ddisgyblaeth wedi ei leoli ar gampws, ac sy’n dal ar y gweill ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, yw fy ymchwil, ac mae’n cynnwys peth gwaith maes ychwanegol yn archaeolegol ac mewn amguefeydd. Fy ngobaith yw newid yn bur sylfaenol y modd arferol y bydd academyddion mewn amguefeydd ac archaeolegwyr yn cyflwyno ac yn egluro diwylliant cyffyrddadwy mewn cyd-destunau cyhoeddus.
Pa mor bwysig yw hi, yn eich barn chi, bod cyllido trwy ysgoloriaethau ar gael?
Fel myfyriwr aeddfed gydag ymrwymiadau teuluol ac ariannol, rwy’n siarad o brofiad pan ddywedaf bod cael sylfaen ariannol ddiogel i ymchwilio ohoni’n bwysig ofnadwy i’r rheini na fyddai fel arall yn gallu fforddio astudio ar gyfer gradd uwch. Trwy dderbyn ysgoloriaeth PC lawn, mae’n amlwg bod y dasg ddiflas o orfod sicrhau arian yn barhaol yn lleihau. Gydag ysgoloriaeth ymchwil gan BC, mae’n diflannu bron yn llwyr; o’i roi’n syml, mae’r amser a fyddai fel arall yn cael ei dreulio’n hel cyllid nawr ar gael ar gyfer bwrw ymlaen ‘da’r ymchwil ei hun.
Mewn gair, allwch chi ddim ond ennill yn y sefyllfa hon. Rwy’n credu bod fy mhrosiect ymchwil yn gyfraniad gwreiddiol at yr hyn a ystyriaf yn ‘economi gwybodaeth’ sy’n blaguro yng Nghymru. Dylai’r ysgoloriaethau hael iawn hyn gan BC barhau i chwarae rhan barhaus a chynhenid yn y math hwn o brosiect ymchwil, a gellir dangos, rwy’n meddwl, eu bod nhw’n ychwanegu gwerth academaidd ac ariannol tymor hir.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ddarpar fyrfyriwr sy’n meddwl gwneud cais am ysgoloriaeth PC ?
Danfonwch eich cais i mewn nawr! Mae ariannu wastad yn bwnc llosg wrth fynd ar drywydd gradd uwch a dyna lle mae ysgoloriaethau a dyfarniadau PC yn ennill eu plwy’. Fy nghyngor i fyddai i eirio’ch prosiect ymchwil yn ofalus, edrych ar y tîm goruchwylio arfaethedig yn y sefydliad o’ch dewis a’r clystyrau ymchwil sefydliadol sy’n cael eu cynnig, ac yna ymgeisio. Synnwn i fawr na chewch chi sioc o’r ochr orau, ac rydw i, ta beth, wastad wedi fy rhyfeddu gan yr haelioni a’r gefnogaeth barhaus a ddarperir gan Brifysgol Cymru.
Yn olaf, carwn ychwanegu imi gael y cyfle i fynychu cynadleddau ymchwil a rhoi papurau ymchwil a ‘chwifio’ baner Prifysgol Cymru ym Mhrifysgol Bryste; Prifysgol Queens, Belffast; Prifysgol Caerdydd; Prifysgol Durham a Phrifysgol Swydd Hertford yn ystod y 18 mis a mwy diwethaf. Fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl imi wneud hyn heb eich cefnogaeth hael a pharhaus.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Cyflwynodd Adrian ganlyniadau ei ymchwil i nifer o Brifysgolion ledled y wlad – ceir enghreifftiau y gellir eu gweld trwy roi clic ar y dolenni isod:
http://www.nomadit.co.uk/asa/asa09/panels.php5?PanelID=567|
http://www.dur.ac.uk/tag.2009/_abstract_book.pdf|
http://www.nomadit.co.uk/asa/asa10/panels.php5?PanelID=813|
http://www.lamp.ac.uk/postgrads/conference/|
http://www.bristol.ac.uk/archanth/tag/index.htm|
Am fwy o wybodaeth am ysgoloriaethau Prifysgol Cymru:
http://www.cymru.ac.uk/en/Scholarships/ScholarshipRecords.aspx|
Neu e-bostiwch awardscymru.ac.uk|
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch at: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk|