Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Cymru
Yr Athro Nigel Palastanga - Dirprwy Is Ganghellor
Diben y cynllun cymrodoriaeth hwn yw dathlu rhagoriaeth unigol ym maes amrywiol ymarfer dysgu ac addysgu, ar draws rhwydwaith Prifysgol Cymru.
Ond, nid ydym eisiau cydnabod cyflawniadau eithriadol mewn ymarfer addysgu yn unig, rydym hefyd eisiau cydnabod cyflawniadau eithriadol yn yr amrediad o weithgareddau cefnogi sydd yn cyfrannu tuag at ansawdd profiad dysgu myfyrwyr .
Trwy greu rhwydwaith o ddamcaniaethwyr ac ymarferwyr ym maes dysgu ac addysgu mewn addysg uwch, bydd Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru yn dod yn adnawdd i gydweithwyr sydd yn dymuno cynnal ymchwil pedagogaidd. Yn ogystal â gwella eu gweithgaredd proffesiynol eu hunain, bydd hyn hefyd yn ychwanegu at wybodaeth y sector ar y thema hon.
Mae graddfa ac amrywiaeth cymuned myfyrwyr Prifysgol Cymru mor fawr fel bod rhaid i ddysgu ac addysgu fod wrth galon yr hyn a wnawn. Mae’n gywir ac yn addas bod y Brifysgol yn gwobrwyo ymarfer da yn y maes hwn ac yn ceisio sicrhau bod hyn yn cael ei rannu ar draws ei rwydwaith a thu hwnt. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot cychwynnol y llynedd, byddwn yn lansio cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Cymru (fel peilot estynedig) ar gyfer 2010/11. Bydd manylion llawn am hyn ar gael yn gynnar ym mis Gorffennaf 2010. Gyda’ch cefnogaeth a’ch diddordeb, rydym yn gobeithio gwneud hwn yn beth sefydlog o fewn cymuned Prifysgol Cymru.
Nigel Palastanga
Dirprwy Is Ganghellor