Apeliadau Myfyrwyr
Caiff unrhyw fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar raglen ddilysedig sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru ddefnyddio Gweithdrefnau Apêl y Brifysgol.
Bydd apêl yn digwydd pan fydd myfyriwr yn gofyn ar i fwrdd arholi ailystyried marc a ddyfarnwyd am asesiad.
Bydd apeliadau yn cael eu hystyried ar sail amgylchiadau personol eithriadol yn unig (megis profedigaeth neu sail feddygol) neu ddiffygion neu anghysonderau mewn asesiad (megis gwall ar bapur arholiad).
Yn y ddau achos bydd angen cwrdd â meini prawf penodol er mwyn i'r apêl gael ei hystyried ac amlinellir y meini prawf hyn yn llawn yn y weithdrefn berthnasol.
Ni chaiff apeliadau a gyflwynir am fod y myfyriwr yn anghytuno â'r marc a ddyfarnwyd eu hystyried.
Dylai myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau eu hastudiaethau neu sydd â chyfle i ailsefyll ddefnyddio'r Weithdrefn Apêl Interim| .
Dylai myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau neu sydd wedi gadael eu rhaglen ddefnyddio'r Weithdrefn Dilysu ac Apêl| .
Mae gweithdrefnau ar wahân ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ar Raddau Ymchwil| (megis MPhil neu PhD).
Dylai myfyrwyr sy'n apelio yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Ymarfer Annheg neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyfeirio at atodiadau'r weithdrefn berthnasol.
I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno apêl cysylltwch ag
appealscymru.ac.uk|