Gwybodaeth ar gyfer Darpar-Fyfyrwyr

Sefydlwyd Prifysgol Cymru ym 1893. Dyma’r corff sy’n dyfarnu graddau i fyfyrwyr addysg uwch yn ei sefydliadau achrededig a chysylltiedig trwy Gymru yn ogystal â dros 100 o sefydliadau partner cydweithredol mewn dros 30 o wledydd.

Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnwys canolfan ymchwil gymeradwy, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd|; Gwasg Prifysgol Cymru|; yr Academi Fyd-eang a chanolfan gynadledda| yng nghefn gwlad Cymru.

Rhaglen a gynlluniwyd gan eich sefydliad chi ac a gyflwynwyd i’w chymeradwyo ger bron Prifysgol Cymru yw rhaglen ddilysedig. Mae Dilysu yn golygu bod eich rhaglen yn cyfateb o ran lefel a safon i raglenni tebyg a gynigir trwy’r sector addysg uwch yn y DU.

Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â’i gweithgaredd dilysu i ben yn ei ffurf bresennol. Mae’r Brifysgol yn datblygu model addysgol rhyngwladol newydd, a gaiff ei gyhoeddi maes o law.

Bydd canolfannau cydweithredol cyfredol yn gallu parhau i recriwtio myfyrwyr yn unol â thelerau eu cytundeb dilysu.

Caniateir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen Prifysgol Cymru yn unol â’r Cytundeb Dilysu barhau â’u hastudiaethau hyd nes y bydd eu rhaglen gyfredol wedi’i chwblhau.

A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, byddwch:
• yn astudio o dan Reoliadau a Gweithdrefnau Prifysgol Cymru
• yn gwybod bod Prifysgol Cymru yn sicrhau ansawdd eich rhaglen
• defnyddio Llyfrgell Ar-lein Prifysgol Cymru sy’n cynnwys eLyfrau, eGyfnodolion a chronfeydd data o safon
• cwrdd ag academyddion Prifysgol Cymru pan fyddant yn ymweld â’ch Sefydliad
• cymryd rhan mewn Dathliad Graddio i ddathlu eich camp
• dod yn aelod o gymdeithas cyn-fyfyrwyr y Brifysgol
• gwneud cais am ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru i dalu ffioedd dysgu
• gwneud cais i fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar Bwyllgorau Prifysgol Cymru

Cwestiynau CyffredinRss FeedAtom Feed

Ateb:
Mae hyn yn golygu bod Sefydliad wedi cynllunio cwrs, y mae'n gwbl gyfrifol am ei ddysgu, sydd wedi'i gymeradwyo gan Brifysgol Cymru fel un sydd o safon ac ansawdd priodol i arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru
Ateb:
Y Sefydliad sy'n cyflenwi'r cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo sy'n gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â fisa
Ateb:
Mae Prifysgol Cymru yn gweithio gyda nifer fawr o Sefydliadau ar draws y byd - gallwch weld a yw cwrs yn cael ei gynnig yn eich gwlad chi drwy ddefnyddio’r adnodd chwilio
Ateb:
Rhaid i chi gysylltu â'r Sefydliad sy'n cyflenwi'r cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo
Arddangos 1 I 4 O 4