Cyswllt myfyrwyr

 Croeso i’r adran Cyswllt Myfyrwyr.

rhysMae dau aelod staff newydd wedi eu hapwyntio i Swyddfa Academaidd Prifysgol Cymru dros y misoedd diwethaf. Byddan nhw'n ymuno â Ben Gray i greu tîm Cyswllt Myfyrwyr o dri.

Rhys Parry, o Bontypridd, yw'r cyntaf o'r rhain. Mae ganddo gynlluniau mawr am ffyrdd o helpu'r tîm i wella agwedd y Brifysgol tuag at ymglymiad myfyrwyr.

Graddiodd Rhys o Goleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin yn 2008, mewn Astudiaethau Iechyd, Ymarfer Corff a Chwaraeon. Mae Chwaraeon yn dal yn rhan bwysig o'i fywyd. Mae'n beldroediwr brwd, ac yn chwarae yn y Gynghrair Gymreig.

Mae ymglymiad myfyrwyr yn fater pwysig i Rhys - "nhw sy'n gwybod beth sy'n gweithio orau iddyn nhw," dywed, "ac mae ganddynt yr hawl i gael eu barn wedi ei lleisio a'i pharchu." Mae'n cydnabod, fodd bynnag, nad yw perswadio myfyrwyr - yn enwedig fyfyrwyr rhyngwladol - i gymryd rhan yn y drafodaeth yn hawdd, gan nad ydyn nhw wastad yn llwyr ddeall eu hawl i wneud hynny. Mae Rhys o'r farn mai'r Swyddog Cyswllt Myfyrwyr sydd â'r cyfrifoldeb dros newid hyn.

Cyn ymuno â Phrifysgol Cymru bu Rhys yn Llywydd Fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol y Drindod a bu hefyd yn ymwneud â Fforwm Cynghrair Myfyrwyr Prifysgol Cymru. Drwy'r gweithgareddau hyn daeth yn fwyfwy argyhoeddedig o bwysigrwydd ymglymiad myfyrwyr.

Mae gan Rhys eisoes nifer o brojectau ar y gweill i ddatblygu Ymglymiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu fforwm i fyfyrwyr Prifysgol Cymru sy'n astudio yn Llundain, creu pecyn o gynghorion ar gyfer myfyrwyr newydd ac uwch lwytho blogiad wythnosol fydd yn galluogi myfyrwyr i olrhain ei weithgareddau - a chynnig sylwadau arnynt! Bydd hefyd, ynghyd â'r Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr eraill, yn ymweld â Ffeiriau'r Glas mewn Sefydliadau Cynghrair a - pan fydd hynny'n bosibl - Ganolfannau Cydweithio fydd yn mynegi diddordeb mewn cael cynrychiolydd o Brifysgol Cymru yn eu hwythnosau anwytho.

Darllen Blog Rhys >>|