Eisteddfod Genedlaethol 2010
Eisteddfod Genedlaethol 2010
Fel y byddwch wedi sylweddoli’n barod, mae’n siwr, mae’r gair eisteddfod yn gyfuniad o eistedd a bod. A’r wythnos diwethaf rwyf i wedi bod yn yr Eisteddfod! yn gyfuniad o a . A’r wythnos diwethaf rwyf i wedi bod yn yr Eisteddfod!
Mae’n ddiddorol nodi bod gwreiddiau’r ŵyl gelfyddydol hon yn mynd yn ôl i’r 12fed ganrif, pan alwodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd o Ddeheubarth y gorau o feirdd a chantorion y wlad ynghyd i’w lys yn Aberteifi yn 1176. Gwobrwywyd cadair i’r bardd gorau un, i’w alluogi i eistedd wrth fwrdd yr Arglwydd ac, wrth gwrs, mae defod ‘y Cadeirio’ yn parhau yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl hyd y dydd heddiw . Gyda dirywiad y traddodiad barddol, pylu a wnaeth poblogrwydd yr aferiad tan y 18g pan cafwyd adfwyiad a chynnydd yn y nifer o Eisteddfodau anffurfiol ag arweiniodd at boblogrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.
Erbyn hyn, fel y gŵyr pawb, mae’r Brifwyl yn ddigwyddiad proffesiynol a slic, ac eleni Glyn Ebwy oedd ei chartref. Cefais innau’r fraint o fynychu am y tro cyntaf erioed, trwy gynorthwyo ar stondin Prifysgol Cymru. Bu’n brofiad gwirioneddol wefreiddiol, gyda diwylliant ac angerdd ar bob llaw. Yn ogystal â’r cystadlu a’r cyngherddau a’r arddangosfeydd, bydd Eisteddfodwyr pybyr yn gwybod mai un o bleserau mawr yr ŵyl yw cael crwydro’r Maes, lle mae stondinau gan bob math o sefydliadau a chyrff, o brifysgolion i bleidlau gwleidyddol. Os nad ydych chi erioed wedi ymweld â’r Eisteddfod, byddwn yn eich annog i wneud hynny, os byth y cewch chi gyfle!
Er nad wy’n siarad Cymraeg, erbyn fy ail niwrnod ar y Maes, roedd gen i nifer o ymadroddion ar flaen fy nhafod, a bues i’n brysur iawn yn eu defnyddio i holi hwn ac arall a alwodd i’n gweld.