23ain Awst

hattieHylô!

Rwy’n ôl am ail wythnos.

Dechreuodd dydd Llun trwy gyflwyno fy hun i eraill a chael fy nghyflwyno, tra daeth cyfarfodydd tîm a rhannu tasgiau i fy rhan ddydd Mawrth. Rwy wedi ymuno â Rhys i gynhyrchu canllaw ar gyfer myfyrwyr sy’n newydd i gyrsiau PC. Felly cadwch lygad yn eich llawlyfr am gyfarwyddiadau a thips am ddefnyddio peiriannau golchi, cyfarpar cegin ac archfarchnadoedd. Cyffrous dros ben!

Dydd Mercher, fe gawsom ddiwrnod bant yn Fforest Dean, oedd yn gyfle gwych i glosio fel tîm a dod i adnabod fy ngydweithwyr newydd a gyrru ar Reilffordd Stêm Fforest Dean. Fe ges i hyd yn oed gyfle i deithio yn yr injan, gan ennyn cenfigen pawb, (redden nhw’n cogio mai tynnu coes oedden nhw, ond fe wn i’r gwir), trwy gael gwisgo cap y gyrrwr.

Cyhoeddwyd canlyniadau Lefel A yr wythnos diwethaf a chafwyd adroddiadau ar bob newyddion bod y gostyngiad yn nifer y llefydd prifysgol wedi gadael Myfyrwyr yn siomedig. Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, llongyfarchiadau, os na lwyddoch chi i gael lle ar eich cwrs dewisol, peidiwch â mynd i banig! Darllenwch drwy’r deunydd y bydd y brifysgol wedi danfon atoch a theimlwch y cynnwrf o wybod eich bod ar y ffordd i Brifysgol. Os na fuoch chi’n llwyddiannus wrth ddod o hyd i le eleni, unwaith eto, peidiwch â mynd i banig! Siaradwch â’ch hen ysgolion neu golegau a darllenwch y deunudd sydd ar gael ar-lein am ganllaw a chyngor.

Tua diwedd yr wythnos fe wnes i gwrdd ag aelodau o Staff PC i gael gwell ddealltwriaeth o BC, darganfod pa gyrsiau a geir ac ym mhle yn y byd maen nhw ar gael.

Yr wythnos hon, fy mwriad yw dyfeisio strategaeth i ymglymu â myfyrwyr ymchwil; os oes gennych chi unrhyw awgrym, e-bostiwch nhw ataf, os gwelwch yn dda, at h.brewster@wales.ac.uk. Hefyd, allwch chi gofio sut brofiad oedd dechrau yn y brifysgol? Beth fyddai wedi bod yn dda gennych ei wybod neu gael clywed amdano cyn dechrau yn y brifysgol?

Ymysg yr awgrymiadau hyn yma mae cyfarwyddiadau ar ddefnyddio peiriant golchi, sut i goginio a sut i wella’ch CV yn rhwydd cyn camu i’r byd mawr go iawn.

Tan y tro nesaf, felly,

Hattie.