Rhwydweithiau Myfyrwyr

student submission

Ffurfiwyd Fforwm Myfyrwyr Cynghrair Prifysgol Cymru (FfMCPC), ar ddechrau’r flwyddyn academaidd 2009/10 a’r aelodau gwreiddiol oedd Llywyddion Undebau Myfyrwyr Sefydliadau Cynghrair Prifysgol Cymru.

Ei fwriad gwreiddiol oedd i ddod ynghyd i rannu profiadau ac i’r aelodau fod yn gefn i’w gilydd a ffurfio ymdeimlad o berchnogaeth ar Brifysgol Cymru, gan greu perthynas rhwng myfyrwyr y sefydliadau Cynghrair.

Ar ôl ei ffurfio, ymgymerodd y Fforwm â chyfrifoldebau creu Cyflwyniad Myfyrwyr ar gyfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd|. Gwnaed hyn ar ffurf cyflwyniad ysgrifenedig a darparodd ddata a gyfosodwyd gan y Fforwm trwy grwpiau ffocws ym mhob un o’r sefydliadau Cynghrair a rhai o Ganolfannau ar y Cyd Prifysgol Cymru. Mae cyflwyniad myfyrwyr yn rhoi i’r myfyrwyr lais, gan roi mynegiant i’w meddyliau ac yn y pen draw, ffurfio eu haddysg.

Bydd y grŵp yn parhau i ddatblygu eleni, gyda’r nod o greu Datganiad Blynyddol i roi clo ar weithgareddau’r flwyddyn.

Yr Aelodaeth eleni yw : 

  • Urdd Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr
  • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe
  • Athrofa Prifysgol Cymru Caerdyddof
  • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru, Casnewydd
  • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant

Cyswllt Myfyrwyr

Darganfod rhagor am y tîm Cyswllt Myfyrwyr a darllen blog diweddaraf y Swyddog Cyswllt Myfyrwyr.
Cyswllt myfyrwyr>>|

Ymholiadau?
Ebostiwch y tîm Cyswllt myfyrwyr|