Datganiad yr Is-Ganghellor i Fyfyrwyr a Chyn-fyfyrwyr
Yn ddiweddar mae Prifysgol Cymru wedi gwneud cyhoeddiadau ynglŷn â’i dyfodol, yn ymateb i’r blaenoriaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru, ac yn benodol i argymhellion adolygiad McCormick.
Mae’r Brifysgol wedi penderfynu uno gyda Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Byddant yn uno dan Siartr Frenhinol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn hytrach na Siartr 1893 Prifysgol Cymru. Mae hwn yn benderfyniad hanesyddol ac yn cynnig cyfle i’r Brifysgol ar ei newydd wedd barhau i wasanaethu addysg uwch mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol.
Myfyrwyr Newydd
Os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs Prifysgol Cymru byddwch yn cael eich trin yn yr un ffordd â’r myfyrwyr presennol a myfyrwyr y gorffennol, ac os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn gadael gyda dyfarniad Prifysgol Cymru.
Myfyrwyr Presennol
I’r holl fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau tuag at ddyfarniad Prifysgol Cymru ar hyn o bryd, bydd Prifysgol Cymru yn parhau yn gorff dyfarnu graddau trwy gydol eu hastudiaethau. Bydd myfyrwyr yn parhau i astudio’r un cwrs yn eu sefydliadau priodol, ac wedi iddynt gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddant yn derbyn tystysgrif gradd fydd yn dangos “Prifysgol Cymru” fel y corff dyfarnu graddau.
Os ydych yn astudio mewn sefydliad yng Nghymru, cyfeiriwch unrhyw gwestiynau pellach sydd gyda chi at gyngor eich sefydliad.
Cyn-fyfyrwyr
Bydd myfyrwyr yn cadw’r dyfarniad Prifysgol Cymru a enillwyd ganddynt ar raddio ac yn parhau i fod yn aelodau gwerthfawr o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.
Mae gan filoedd o gyn-fyfyrwyr ledled y byd radd gan Brifysgol Cymru. Mae gan radd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru etifeddiaeth gref ac maent yn cael eu cydnabod, ac yn uchel eu parch, gan gyflogwyr trwy’r byd i gyd. Ni fydd gwerth hyn yn newid.
Gall myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i’n helpu i ateb unrhyw bryderon gan fyfyrwyr ynglŷn â’r newidiadau hyn. Rydym yn deall gwerth a phwysigrwydd ein myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ac, fel sy’n cael ei ddatgan yn barhaus, byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i’r holl fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Prifysgol Cymru ar hyn o bryd.
Yr Athro Medwin Hughes
Is-Ganghellor