Llety
Gall Neuadd Gregynog letya hyd at 101 o bobl (yn rhannu) gyda 56 o ystafelloedd gwely, gan gynnwys 14 ensuite traddodiadol, a 6 ystafell arall mewn bwthyn gerllaw. Mae ein hystafelloedd yn amrywio o ran maint ac arddull, o ystafelloedd hanesyddol mawreddog i ystafelloedd gwely astudio sengl.
Ceir cyfleusterau te a choffi ym mhob ystafell, gyda basn ymolchi, tywelion a thaclau ymolchi.
Ceir golygfeydd godidog o’r gerddi yn yr 36 ystafell wely yn y Brif Neuadd, sy’n rhannu’r cyfleusterau ymolchi gwreiddiol o’r 1920au a nifer ohonynt yn cynnwys gweithiau celf gwreiddiol a dodrefn cain.
Yn yr iard stablau hanesyddol, crewyd 12 o ystafelloedd en-suite modern, sy’n cynnwys pum ystafell sengl, chwe ystafell dau wely a one ystafell teuluol. Mae dwy ystafell en-suite arall â chyfleusterau ar gyfer cadair olwyn.
Mae prisiau Gwely a Brecwast yn dechrau o £40.75yp mewn ystafell en-suite. Codir taliadau ychwanegol yn ddibynnol ar y math o ystafell. Cwblhewch ein Ffurflen Ymholiadau| am ragor o wybodaeth.
Ym Mwthyn yr Ardd|, sydd yn edrych dros ddyffryn y gerddi, ceir chwe ystafell wely arall i ddeuddeg o bobl, gyda phum ystafell ymolchi â baddon/cawod. Mae’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer gwyliau yn yr ardal i deuluoedd neu grwpiau llai.
Ymlacio
Ceir dwy ardal i ymlacio gyda lolfeydd sy’n derbyn y prif bapurau newydd dyddiol. Yn y gerddi ceir milltiroedd lawer o lwybrau cerdded ag arwyddion, gan gynnwys cuddfannau ar gyfer gwylio adar. Gall gêm o croquet neu fowlio ar noson o haf ychwanegu at y profiad pleserus o ymweld â Gregynog.
Profiad hudol arall yw pori drwy’r llyfrgell, gyda’r casgliad yn cynnwys adran arbennig o lenyddiaeth Arthuraidd a chyfrolau helaeth am gerddoriaeth a’r celfyddydau cain.

Gellir trefnu sgyrsiau am hanes Gregynog a theithiau tywys o flaen llaw.