Cyfarwyddiadau
Mae lleoliad Gregynog, ger pentref tawel Tregynon, 6 milltir i’r gogledd o’r Drenewydd ym Mhowys, yn golygu fod modd ei gyrraedd o fewn 3 awr o bob rhan o Gymru, o fewn 2 awr o Birmingham, Manceinion, Caer a Lerpwl a 50 munud yn unig o’r Amwythig. Ceir cyswllt rheilffordd ar y lein Birmingham – Aberystwyth ac mae’r A483 cyfagos yn arwain at y rhwydwaith traffyrdd.
O’r Drenewydd
-
Gan fynd i mewn i’r Drenewydd o’r de, arhoswch ar yr A489 tan i chi gyrraedd cylchdro McDonald’s.
-
Trowch i’r chwith wrth y cylchdro (gan gadw McDonalds ar y chwith i chi).
-
Ewch dros y bont gan ddilyn arwyddion yr ysbyty. Cymerwch y pumed troad ar y dde (gyferbyn â’r Bell Hotel). Parhewch i fyny’r rhiw allan o’r Drenewydd am tua chwe milltir.
-
Mae arwydd mynedfa Gregynog ar y chwith cyn pentref Tregynon.
O’r Trallwng
-
Ewch i gyfeiriad y Drenewydd ar y A483 am tua 4 milltir. Trowch i’r dde i Aberriw (B4390).
-
Ym mhentref Aberriw cymerwch yr ail droad i’r chwith, sydd wedi’i arwyddo Bettws Cedewain 5 milltir.
-
Ym mhentref Betws dilynwch y ffordd i’r dde (gan gadw tafarn y New Inn ar y dde i chi) sydd wedi’i arwyddo Tregynon 2.5 milltir.
-
Mae arwydd mynedfa Gregynog union gyferbyn â’r gyffordd nesaf.
Llywio â lloeren
Defnyddiwch y cod post SY16 3PW, er y bydd hwn yn dod â chi dir y Neuadd drwy fynedfa gefn yr Ystad. O gyfeiriad Aberriw, mae’n bosibl y bydd hefyd yn dweud wrthych chi am droi i’r dde i gyfeiriad Brooks, sy’n heol un trac serth. Anwybyddwch hyn a harhewch i gyfeiriad Bettws Cedewain.
Nodwch os gwelwch yn dda: Ar hyn o bryd mae Google Maps yn dangos cyfeiriadau a chyfarwyddiadau mewn nifer cyfyngedig o ieithoedd sydd ddim yn cynnwys Cymraeg, ond fe all hyn newid yn y dyfodol wrth i’r adnodd wella.
Google Map
Gweld Gregynog| ar fap mwy