Prosiect Gohebiaeth Edward Lhwyd

 

 

Yn dilyn y gynhadledd trichanmlwyddiant a gynhaliwyd y llynedd, mae ein gwaith ar Edward Lhwyd yn parhau gyda phrosiect newydd ar ei ohebiaeth a gychwynnodd ym mis Medi 2009 gyda phenodi Helen Watt| yn Gynorthwyydd Golygyddol. Mae ei gwaith ar Edward Lhwyd yn rhan o’r prosiect ‘Cultures of Knowledge’| sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Rhydychen| a’i ariannu gan nawdd hael Sefydliad Andrew W. Mellon|. Bydd calendr ar-lein o’r llythyrau yn dangos mor ganolog oedd Edward Lhwyd yn rhwydwaith byd llên yr ail ganrif ar bymtheg. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, mae swm y llythyrau sydd ar gael wedi parhau i gynyddu; mae dros 2,100 ohonynt bellach, a’r rheini’n ymdrin â rhychwant eang ryfeddol o ysgolheictod a gwyddoniaeth. Cyfarwyddir y prosiect gan Dr Brynley F. Roberts, yr awdurdod pennaf ar Edward Lhwyd a fu’n gyfrifol am drawsysgrifio’r llythyrau yn y lle cyntaf. Mae’r rheini hefyd i’w cyhoeddi, ynghyd â delweddau digidol a nodiadau.