Prosiect ar y cyd yw hwn gyda Dr Kathryn Jones (Prifysgol Abertawe) a Dr Carol Tully (Prifysgol Bangor).
Y mae'r prosiect yn ymwneud â’r cysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd / diwylliannau eraill (yn Ewrop yn bennaf) o 1750 hyd heddiw, ac yn enwedig hanes teithiau i Gymru o'r gwledydd hyn. Yr ydym yn gobeithio darganfod patrymau a chyfnodau arwyddocaol o weithgarwch y gellid canolbwyntio arnynt gyda golwg ar sefydlu rhwydwaith ymchwil neu wneud cais am grant ymchwil. Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf Teithwyr i Gymru| yn y Ganolfan ar 25 Ebrill 2009. Roedd yna bwyslais yn y papurau ar destunau mewn ieithoedd Ewropeaidd. Bwriedir adeiladu ar lwyddiant yr achlysur hwn, gan ddatblygu’r thema ymhellach mewn gweithgareddau eraill ar y cyd yn y dyfodol.