Mwy am y Ganolfan
Sefydlwyd y Ganolfan gan Brifysgol Cymru yn 1985, a chanddi lyfrgell| sylweddol sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd yn adnodd amhrisiadwy ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Y Cyfarwyddwr cyntaf oedd yr Athro R. Geraint Gruffydd, a’r prosiect cyntaf oedd darparu golygiad o holl gerddi Beirdd y Tywysogion, a gyhoeddwyd mewn saith cyfrol (1991–6).
Yn 1993 symudodd y Ganolfan i adeilad pwrpasol wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn yr un flwyddyn penodwyd yr Athro Geraint H. Jenkins yn Gyfarwyddwr, a gwelwyd cynnydd mawr yng ngweithgareddau’r Ganolfan dros y pymtheng mlynedd nesaf, gyda thri phrif brosiect yn cydredeg yn fuan.
Y mae’r prosiectau a gwblhawyd yn cynnwys Beirdd y Tywysogion,| Beirdd yr Uchelwyr,| Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg,| Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol,| Diwylliant Gweledol Cymru,| ac Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru.|
Yn sgil penderfyniad Prifysgol Cymru i ddiddymu’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn 2007, y Ganolfan sydd bellach yn gyfrifol am genhadaeth arbennig y Brifysgol i hyrwyddo ymchwil ym maes Astudiaethau Celtaidd yng Nghymru, ac yr ydym yn ariannu ymchwil gydweithredol a chyhoeddiadau, gan gynnwys pedwar cylchgrawn, Contemporary Wales , Cylchgrawn Hanes Cymru, Llên Cymru a Studia Celtica .
Y mae Geiriadur Prifysgol Cymru |bellach yn un o bedwar prif brosiect y Ganolfan. Y prosiectau cyfredol eraill yw Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd| , Barddoniaeth Guto’r Glyn,| a Cymru a’r Chwyldro Ffrengig.| Bwriadwn ddatblygu prosiect newydd ar enwau lleoedd| Cymru yn 2010, ac y mae golygiad o ohebiaeth Edward Lhwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen eisoes ar y gweill. Ar hyn o bryd y mae gan y Ganolfan staff| o dros ddeg ar hugain. Y Cyfarwyddwr presennol, a benodwyd yn sgil ymddeoliad yr Athro Geraint H. Jenkins ym mis Medi 2008, yw’r Athro Dafydd Johnston.|
Y mae’r Ganolfan yn cynnal digwyddiadau| sy’n agored i’r cyhoedd yn rheolaidd, gan gynnwys ffora blynyddol sy’n berthnasol i’n prosiectau cyfredol, cynadleddau pwysig ym maes Astudiaethau Celtaidd, a seminarau pythefnosol yn ystod tymhorau’r gaeaf a’r gwanwyn.
Prifysgol Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n darparu arian craidd y Ganolfan, a cheir cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiectau gan Gynghorau Ymchwil ac elusennau yn y DU, yn ogystal â chan yr Academi Brydeinig ac amrywiol ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Ar hyn o bryd yr ydym yn derbyn grantiau ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar gyfer ein prosiectau ar Guto’r Glyn a Chymru a’r Chwyldro Ffrengig.
Y mae Astudiaethau Celtaidd yn ddisgyblaeth academaidd eang sy’n cwmpasu ieithoedd, llenyddiaethau, hanes a diwylliannau Cymru, Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw, yn ogystal â rhanbarthau helaeth o gyfandir Ewrop a chanolbarth Asia Leiaf mewn cyfnodau cynnar. Ceir cryn ddadlau o hyd ynghylch gwreiddiau’r ieithoedd Celtaidd a’r grwpiau a elwir yn Geltiaid, ac y mae’r pynciau dadleuol hyn yn ganolog i’n prosiect Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd.| Mater dadleuol arall yw a oes gan y Celtiaid ddiwylliant a hunaniaeth sy’n gyffredin iddynt. Myn rhai fod celfyddyd, cerddoriaeth, llenyddiaeth, crefydd, a hyd yn oed fydolwg hanfodol Geltaidd yn bodoli, ond mewn gwirionedd yr unig nodwedd bendant sy’n uno’r Celtiaid heddiw yw tarddiad cyffredin eu hieithoedd, a ddisgrifiwyd am y tro cyntaf gan Edward Lhwyd yn ei Archaeologia Britannica yn 1707.
Er hynny, y mae’r Celtiaid yn sicr wedi gwneud cyfraniad sylweddol i wareiddiad cyfandir Ewrop oddi ar Oes yr Efydd. Er iddynt gael eu gwthio i’r cyrion a’u gormesu gan bwerau imperialaidd, y mae eu hieithoedd a’u diwylliannau yn parhau i oroesi, i ymaddasu ac i ddatblygu yn y cyfnod modern. Y mae traddodiad barddol Cymru ac Iwerddon ymhlith trysorau lled anghyfarwydd Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ac eto y mae gan y ddwy wlad lenyddiaethau cyfoes sydd hefyd yn ffynnu. Er bod Astudiaethau Celtaidd yn cynnig cipolwg cyfoethog ar ein traddodiad ac ar ein hetifeddiaeth ddiwylliannol, nid disgyblaeth sy’n edrych yn ôl yn unig mohoni. Y mae hefyd yn cynnig cyfleoedd hanfodol ar gyfer astudio a chyfoethogi ein diwylliant cyfoes ac ar gyfer cynllunio dyfodol ein hieithoedd a’n cymunedau.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Celtiaid yn y gweithiau canlynol a olygwyd gan yr Athro John T. Koch, Celtic Culture: A Historical Encyclopedia| (5 cyfrol, 2006) a’r Atlas for Celtic Studies| (2007).