Cynadleddau, Ffora a Seminarau

GWEITHDAI

 

Thomas Pennant: Tours yng Nghymru ac yn yr Alban.

Cynhelir dau weithdy ar y cyd rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Prifysgol Glasgow. Dan nawdd yr Academi Brydeinig gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Glasgow, 1-2 Chwefror 2013 & Aberystwyth, 7-8 Mehefin 2013.

Cliciwch yma| am ragor o fanylion.

 

 

Fora

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal cyfres o ffora (neu gynadleddau undydd) yn rheolaidd. Fel arfer, cynhelir un fforwm i bob prosiect bob blwyddyn.

Os hoffech dderbyn manylion am ein ffora, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfancymru.ac.uk.| Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall. 

Ffora Blaenorol

|

2012: Seintiau ac enwau lleoedd: Cymru a'r Alban 

2011: Cynhadledd Sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

2011: Fforwm Undydd Cymru a'r Chwyldro Ffrengig: Rhyddid

2011: Gwydr Lliw yng Nghymru

2011: 'Ancient Britons, Wales, and Europe - New Research in Genetics, Archaeology, and Linguistics'

2011: Arglwyddi a Beirdd: Gwent, Rhaglan a Rhyfeloedd y Rhosynnau

2011: Cynhadledd 'Wales and Revolution' (cynhaliwyd ar y cyd gan The Association for Welsh Writing in English)

2011: Enwau Lleoedd a Chymru'r Oesoedd Canol

 

SEMINARAU
 

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal dwy gyfres o seminarau (yn aml ar waith mewn llaw) bob blwyddyn. Fe’u cynhelir fel arfer yn Ystafell Seminar y Ganolfan am 5:00 o’r gloch bob yn ail ddydd Iau yn ystod tymhorau’r Pasg a’r Hydref. Y mae’r rhan fwyaf o bapurau tua 50 munud o hyd, gan adael rhyw 20 munud ar y diwedd ar gyfer cwestiynau. Estynnir croeso cynnes i bawb.

Os hoffech dderbyn manylion am ein seminarau a’n cynadleddau drwy’r post, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfancymru.ac.uk.| Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall.