Cynadleddau, Ffora a Seminarau

CYNADLEDDAU

Llun o gerflun o Edward Lluyd, gyda thestun i hysbysebu Cynhadledd Edward Lluyd

Cynhaliwyd Cynhadledd Ryngwladol bwysig i nodi trichanmlwyddiant marw Edward Lhuyd| gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth rhwng 30 Mehefin a 3 Gorffennaf 2009.

Llun o adeilad y Ganolfan Geltaidd gyda thestun i hysbysebu'r Gynhadledd 'Cerrig Milltir'

Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol 'Cerrig Milltir’| yn Aberystwyth 28 Mehefin–2 Gorffennaf 2005 i ddathlu ugeinfed pen blwydd y Ganolfan.

Fora

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal cyfres o ffora (neu gynadleddau undydd) yn rheolaidd. Fel arfer, cynhelir un fforwm i bob prosiect bob blwyddyn.

Os hoffech dderbyn manylion am ein ffora, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfancymru.ac.uk.| Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall. 

Tachwedd 2011

Ffora Blaenorol 

2011: Cynhadledd Sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

2011: Fforwm Undydd Cymru a'r Chwyldro Ffrengig: Rhyddid

2011: Gwydr Lliw yng Nghymru

2011: 'Ancient Britons, Wales, and Europe - New Research in Genetics, Archaeology, and Linguistics'

2011: Arglwyddi a Beirdd: Gwent, Rhaglan a Rhyfeloedd y Rhosynnau

2011: Cynhadledd 'Wales and Revolution' (cynhaliwyd ar y cyd gan The Association for Welsh Writing in English)

2011: Enwau Lleoedd a Chymru'r Oesoedd Canol

2010: The Legacy of Rome: Wales AD 300-700

2010: Cymru a'r Chwyldro Ffrengig

2010: Rethinking the Bronze Age and the Arrival of Indo-European in Atlantic Europe

2010: Guto'r Glyn a Glyn-y-groes: Bardd o'r bymthegfed ganrif yn ardal Llangollen

2010: Trydydd Gweithdy Cymru a Llydaw: Cyffyrddiad Ieithyddol

 

SEMINARAU
 

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal dwy gyfres o seminarau (yn aml ar waith mewn llaw) bob blwyddyn. Fe’u cynhelir fel arfer yn Ystafell Seminar y Ganolfan am 5:00 o’r gloch bob yn ail ddydd Iau yn ystod tymhorau’r Pasg a’r Hydref. Y mae’r rhan fwyaf o bapurau tua 50 munud o hyd, gan adael rhyw 20 munud ar y diwedd ar gyfer cwestiynau. Estynnir croeso cynnes i bawb.

Os hoffech dderbyn manylion am ein seminarau a’n cynadleddau drwy’r post, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfancymru.ac.uk.| Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall.