Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr||
13: Gwaith Casnodyn
Awdur/
Golygydd
|
R. Iestyn Daniel
|
|
Cyhoeddwyd
|
1999
|
|
ISBN
|
094753170X
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xvii+197
|
Golygir yn y gyfrol hon waith Casnodyn, bardd a ganai yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac un o’r beirdd pwysicaf o blith y Gogynfeirdd diweddar. Hanai o Gilfái ger Abertawe, a chanodd ym Morgannwg, Ceredigion a gorllewin Gwynedd. Cadwyd deuddeg cerdd o’i eiddo, yn gerddi mawl, marwnad, serch, dychan a cherddi crefyddol. Er mai bardd traddodiadol a cheidwadol ei ogwydd ydoedd, eto ceir yn ei waith elfennau newydd sy’n rhagflaenu canu serch y Cywyddwyr cynnar, a thrwy ei ddefnydd cywrain a chyson o’r gynghanedd chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad y gynghanedd gaeth.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|