Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr|
24: Gwaith Gruffudd ap Maredudd: I – Canu i deulu Penmynydd
Awdur/
Golygydd
|
Barry J. Lewis
|
|
Cyhoeddwyd
|
2003
|
|
ISBN
|
0 947531 27 0
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xvii+171
|
'Un o’r olaf o’r Gogynfeirdd ac un o’r mawrion’. Y mae geiriau Saunders Lewis yn disgrifio i’r dim le Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bardd ydoedd a gydiodd yn nhraddodiadau ei ragflaenwyr yn llysoedd y Tywysogion a’u datblygu ar gyfer oes newydd. Blodeuai Gruffudd ym Môn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cedwir swmp helaeth o’i waith yn Llyfr Coch Hergest, yn ganu mawl a marwnad, ac yn ganu crefyddol, serch a dychan. Golygir yn y gyfrol hon saith o gerddi mawl a marwnad a ganodd i aelodau o deulu Penmynydd, tylwyth pwysicaf yr ynys yn ei ddyddiau ef a noddwyr i nifer o feirdd blaenllaw y cyfnod, yn eu plith Iolo Goch a Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Ceir yma hefyd awdl fawl i noddwr anhysbys sydd, yn ôl pob tebyg, i’w gyfrif yn aelod o’r un teulu.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|