Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr|
32: Gwaith Madog Dwygraig
Awdur/
Golygydd
|
Huw Meirion Edwards
|
|
Cyhoeddwyd
|
2007
|
|
ISBN
|
0947531874
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xviii+159
|
Bardd o Benllyn oedd Madog Dwygraig a ganai yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn ogystal ag awdlau mawl a marwnad a cherddi crefyddol a chyffesol dwys, ceir ganddo gorff helaeth o ganu dychan amharchus sy’n golygu ei fod yn un o feirdd pwysicaf y traddodiad dychan Cymraeg. Dychanodd glerwyr, gwrach a gwëydd ymhlith eraill, a chanodd ddwy awdl nodedig sy’n fwy storïol eu naws. Y mae’r naill yn melltithio merch a ysbeiliodd ei goeden afalau, a hynny ar ffurf parodi beiddgar o ‘Afallennau’ Myrddin, a’r llall yn dychanu llo a dderbyniodd y bardd yn rhodd. Trôi Madog yn yr un cylchoedd ag Iolo Goch, ac er nad oes yr un o’r cerddi a ddiogelwyd yn Llyfr Coch Hergest ar fesur cywydd, y mae ei ddyfeisgarwch, ei hiwmor a’i hoffter o naratif yn dwyn i gof farddoniaeth ddiddanol y Cywyddwyr cynnar.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|