Cyhoeddiadau
Cyfres : Diwylliant Gweledol Cymru : Y Gyfres CD-ROM|
Diwylliant Gweledol Cymru: Y Gymru Ddiwydiannol (CD-ROM)
Awdur/
Golygydd
|
Peter Lord
|
|
Cyhoeddwyd
|
2000
|
|
ISBN
|
0-7083-1653-0
|
|
Cyhoeddwr
|
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
|
|
Pris
|
£30.00
|
|
Maint
|
CD-ROM
|
|
Fformat
|
CD-ROM (WINDOWS/MAC)
|
Dewch ar daith amlgyfrwng drwy ddiwylliant gweledol Cymru yn ystod ei hoes ddiwydiannol rhwng 1750 a 1960. Ymchwiliwch i’r cysylltiadau rhwng cymunedau, gwneuthurwyr delweddau a delweddau wrth i’r gymdeithas Gymreig ddatblygu o’i dechreuadau gwledig i fod yn ddarparwr byd-eang o lo, copr, llechi. haearn a dur.
Y mae’r CD-ROM hwn yn ychwanegiad gwych i’r gyfres. Y mae’n cynnwys nid yn unig fersiwn electronig llawn o’r llyfr cysylltiedig| ond hefyd:
-
600 o luniau safon uchel o fanylder llawn ar y sgrin (llawer ohonynt wedi eu hailddarganfod neu heb fod ar gael i’r cyhoedd fel arall)
-
200 o luniau ychwanegol
-
dyfyniadau, cyfweliadau, archif sain, clipiau ffilmiau a phanoramâu rhithwir
-
bywgraffiadau arlunwyr enwog a rhai llai adnabyddus.
-
geirfa, llyfryddiaeth, llinell amser, map
Dyma gydymaith angenrheidiol ar gyfer unrhyw un sy’n ymddiddori yn y celfyddydau gweledol neu yn hanes y Gymru ddiwydiannol, a man cychwyn ar gyfer meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant gweledol yng nghyd-destun y gymdeithas ddiwydiannol.
Gofynion Cyfrifiadurol: Windows™ 95/98, Pentium 166, 64Mb RAM, 12x CD-ROM, llygoden, lliw 16-bit VGA (o leiaf), cerdyn sain gydag uchelseinyddion neu glustffonau, QuickTime™ 3 neu 4 (ar y CD-ROM); PowerMac™ 7.6.1 neu fersiwn diweddarach, gofynion eraill fel uchod. (Ar beiriant cyflym gellir rhedeg y rhaglen yn syth o’r CD-ROM; ar beiriant llai pwerus bydd angen 90Mb o ofod rhydd ar y ddisg galed.)