Cyhoeddiadau
Cyfres : Diwylliant Gweledol Cymru : Y Brif Gyfres|
The Visual Culture of Wales: Medieval Vision
Awdur/
Golygydd
|
Peter Lord
|
|
Cyhoeddwyd
|
2003
|
|
ISBN
|
0-7083-1801-0
|
|
Cyhoeddwr
|
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
|
|
Pris
|
£30.00
|
|
Maint
|
240 x 290mm
|
|
Fformat
|
Clawr caled/Hardback, 288tt./pp., 500 llun lliw/colour illustrations
|
Yn y drydedd gyfrol – a’r olaf – yng Nghyfres Diwylliant Gweledol Cymru canolbwyntir ar y cyfnod sy’n ymestyn o gwymp y llywodraeth Rufeinig yn y bumed ganrif hyd at gyfnod y Dadeni yn y bymthegfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Dengys y testun sut yr arweiniodd grymoedd economaidd, ynghyd â syniadau cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol, at greu delweddau yn sgil newidiadau mewn patrymau nawdd ac arferion gwaith. Ceir hefyd adran thematig sy’n disgrifio sut yr oedd cylch bywyd Iesu Grist, y Forwyn Fair a’r seintiau yn cynnig fframwaith i fywyd beunyddiol pobl drwy gydol yr Oesoedd Canol.
Ceir dros 500 o ddelweddau ac arteffactau mewn lliw llawn, llawer ohonynt wedi eu hatgynhyrchu am y tro cyntaf. Y mae’r llu gweithiau sydd i’w canfod mewn eglwysi ledled Cymru yn destun ffotograffau y comisiynwyd Charles a Patricia Aithie i’w tynnu ar gyfer y gyfrol hon.
Datgelir yn y gyfrol y cyfoeth rhyfeddol o ddelweddaeth ganoloesol sydd wedi goroesi yng Nghymru. Cynhyrchai rhai gweithdai a chrefftwyr waith cwbl arbennig, ac idiosyncratig ambell waith, ond eto i gyd yr oedd i ddiwylliant gweledol Cymru ei ran ym mhrif ffrwd y Byd Cristnogol Ewropeaidd. Yn wir, dengys y gyfrol fod noddwyr Cymru ar flaen y gad, o ran eu chwaeth, yn Nadeni y bymthegfed ganrif yng ngogledd Ewrop.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o
gwales.com|