Prosiectau Cyfredol

Barddoniaeth Guto'r Glyn|  

Pan holodd Tomas ap Dafydd, Abad Dinas Basing, y pencerdd Tudur Aled pwy oedd y gorau o ran canu ‘cywydd mab’ (sef canu mawl i uchelwyr), ei ateb cadarn oedd Guto’r Glyn, ac ar hyd y canrifoedd hyd heddiw y mae beirniaid wedi bod yn unfryd eu barn ynglŷn ag athrylith farddol Guto’r Glyn . . . Cyhoeddir golygiad ar-lein o farddoniaeth Guto’r Glyn erbyn 2012, gyda nodiadau cyflawn a fydd yn galluogi’r darllenydd i lwyr werthfawrogi’r cerddi . . .

 
Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd|

Y mae’r ymchwil gychwynnol ar gyfer y prosiect hwn yn cydnabod y posibilrwydd o newid pwyslais sylfaenol ym maes astudiaethau Celtaidd.Yn ddiweddar, cynigiwyd dadleuon (sy’n seiliedig ar archaeoleg a geneteg) o blaid olrhain y gwreiddiau Celtaidd i barthau Môr Iwerydd yn Oes yr Efydd yn hytrach nag i ddiwylliannau archaeolegol Hallstatt a La Tène yn nhiriogaethau canolbarth Ewrop yn Oes yr Haearn . . . 

Cymru a'r Chwyldro Ffrengig|

Y Chwyldro Ffrengig ym 1789, o bosibl, oedd digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop . . . Sut y daeth trigolion trefi megis Caerfyrddin, Bangor neu Aberdaugleddau i wybod am y digwyddiadau yn Ewrop ac am yr adwaith a gafwyd iddynt ym Mhrydain? Ym mha fodd yr oedd yr ymatebion yng Nghymru yn wahanol i’r rhai a gafwyd yn yr Alban, Iwerddon a Llundain? Nod ein prosiect newydd yw archwilio’r pynciau hyn mewn cyfres o destunau golygedig . . . 

Gwydr Lliw yng Nghymru|

Ceir nifer sylweddol o ffenestri lliw drwy Gymru benbaladr. Mae rhai i’w cael yn y mwyafrif o ardaloedd, mewn eglwysi gan amlaf ond mewn rhai capeli yn ogystal . . .  Gan adeiladu ar brosiect ymchwil yr AHRC ‘ Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, a weithredwyd ar y cyd â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, mae cronfa ddata ar lein o wydr lliw yng Nghymru yn cael ei pharatoi . . . 

Geiriadur Prifysgol Cymru|   

Yn 1921 sefydlodd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru gynllun i gynhyrchu'r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol cyntaf. Cyhoeddwyd cyfrol olaf y Geiriadur yn 2002 wedi 82 o flynyddoedd o waith. Mae'r tîm bellach yn ailolygu'r Geiriadur yn drylwyr gan ddisgwyl gorffen B yn 2011.

 
Astudiaethau Enwau Cymreig|

Bydd y ‘Guide to Welsh Name-Studies’, fel y’i gelwir am y tro, yn cynnig mwy na llyfryddiaeth brintiedig gonfensiynol oherwydd bydd yn cynnwys crynodebau llawn o lawer o erthyglau, a mynegeion electronig i astudiaethau hwy; at hynny, bydd yr holl gofnodion wedi eu tagio yn ôl y cynnwys a’r ardal y maent yn ymwneud â hwy.

Eira Ddoe: cofio tywydd eithafol|

Mi fydd y prosiect hwn, sydd wedi’i ariannu gan yr AHRC, yn ymchwilio i sut y gellir datgelu ac adrodd profiadau’r gorffennol, rhai hanesyddol a mwy diweddar, fel ffyrdd o ddeall a delio â ffenomenau sy’n gynyddol yn cael eu hystyried yn arwyddion o newid hinsawdd. Mi fydd yn archwilio’r ffyrdd y mae digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu cofio a’u mytholegeiddio gan y Cymry, er mwyn dehongli beth ellir ei ddysgu – yn rhybuddion a chyfleon.

 

  •