Alaw Mai Edwards BA, PhD
|
Swydd:
|
Cymrawd ymchwil,
Prosiect Guto’r Glyn |
|
|
e-bost:
|
a.jonescymru.ac.uk|
|
|
Ffôn:
|
01970 636543
|
|
Ffacs:
|
01970 639090
|
|
Cyfeiriad post:
|
Dr Alaw Mai Edwards,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH
|
Y mae Alaw Mai Edwards yn gweithio ar brosiect newydd y Ganolfan, a gychwynnodd ym mis Ionawr 2008, sef Prosiect Guto’r Glyn| . Wedi ennill gradd BA dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu’n astudio ac yn dadansoddi’r cyfeiriadau at wisgoedd yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ar gyfer gradd ymchwil M.Phil. Datblygiad o hynny yw ei thraethawd Ph.D. ‘Gwisgoedd ac Ategolion yn Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol’, Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â disgrifiadau’r beirdd o ddillad, y mae ganddi ddiddordeb hefyd yn niwylliant materol Cymru yn yr Oesoedd Canol a sut y darlunnir y diwylliant hwnnw ym marddoniaeth a rhyddiaith y cyfnod. Y mae’n gobeithio manteisio ar ei diddordeb a’i harbenigedd yn y meysydd hyn wrth gyfrannu at y prosiect newydd a fydd yn archwilio bywyd y Cymry yn y bymthegfed ganrif trwy lygaid Guto’r Glyn.
Cyn cael ei phenodi yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan bu’n gweithio fel ymchwilydd ar brosiect dan nawdd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd a than gyfarwyddyd Dr A. Cynfael Lake, sef ‘Baledi Huw Jones o Langwm’. Cafodd Alaw flas ar olygu a dadansoddi gwaith y baledwr hwn o’r ddeunawfed ganrif, yn enwedig gan ei bod hithau, fel yntau, yn frodor o Langwm. Bydd detholiad o faledi Huw Jones yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.
Cyhoeddiadau
‘ “Val y Gwydel am y Ffalling”: Beirdd y Bymthegfed Ganrif a’r Fantell Wyddelig’, Llên Cymru , 32 (2009), 85–100.
‘O’r Brethyn Brith i’r Damasg Disglair: Tecstiliau’r Cymry yn yr Oesoedd Canol’ yn Cof Cenedl XXIV , gol. Geraint H. Jenkins (Llandysul, 2009), tt.1–29.