Ann Parry Owen BA, PhD
|
Swydd:
|
Cymrawd Ymchwil ac Arweinydd Prosiect Barddoniaeth Guto'r Glyn|
|
|
e-bost:
|
apocymru.ac.uk|
|
|
Ffôn:
|
01970 636543
|
|
Ffacs:
|
01970 639090
|
|
Cyfeiriad post:
|
Dr Ann Parry Owen,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH
|
Prif faes ymchwil Dr Ann Parry Owen yw barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Y mae’n ymddiddori’n arbennig ym marddoniaeth, mydryddiaeth ac ieithwedd Beirdd y Tywysogion| a’r Gogynfeirdd Diweddar a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Hi yw un o gyd-olygyddion Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr i, ii yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion, a cheir golygiadau o destunau diweddarach ganddi yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr| , cyfres y mae hi’n olygydd cyffredinol arni. Yn 2007 dyfarnwyd grant ymchwil i Dr Parry Owen gan yr AHRC i sefydlu prosiect pum mlynedd newydd ar gyfer tîm yn y Ganolfan. Cychwynnodd y prosiect hwn ar 1 Ionawr 2008. Guto’r Glyn| sydd dan y chwyddwydr y tro hwn, a bydd golygiad electronig newydd o’i waith yn cael ei baratoi yn ogystal ag astudiaeth drylwyr o fywyd yng Nghymru’r bymthegfed ganrif – e.e. ei diwylliant materol, hanes, gwleidyddiaeth, &c. – drwy gyfrwng gwefan yn ogystal â chyfrol o erthyglau.
Yn 2007 dyrchafwyd Dr Parry Owen yn Ddarllenydd gan Brifysgol Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
‘Mynegai i enwau priod yng ngwaith beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg’, Llên Cymru, 31 (2008), 35–89.
‘“Englynion Bardd i’w Wallt”: Cerdd Arall gan Ddafydd ap Gwilym?’, Dwned, 13 (2007), 47–75.
Gwaith Gruffudd ap Maredudd iii (Aberystwyth, 2007).
‘Canu Serch Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd o Fôn’, Dwned, 10 (2004), 57–78.
‘Cyfuniadau hydref ddail ym Marddoniaeth Beirdd y Tywysogion’, yn Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, goln. Iestyn Daniel, Marged Haycock, Dafydd Johnston, Jenny Rowland (Caerdydd, 2003), tt. 237–51.
gyda Dafydd Johnston, ‘Tri darn o farddoniaeth yn Llawysgrif Peniarth 10’, Dwned, 5 (1999), 35–45.
‘Cymeriad yn awdlau Beirdd y Tywysogion’, Dwned, 4 (1998), 33–58.
Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac Eraill, gol. Rhiannon Ifans, Ann Parry Owen (tt. 1–112), W. Dyfed Rowlands ac Erwain Haf Rheinallt (Aberystwyth, 1997).
Nifer o erthyglau ar gyfer Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (arg. newydd, Caerdydd, 1997).
‘Mynegai i Enwau priod ym marddoniaeth Beirdd y Tywysogion’, Llên Cymru, 20 (1997), 25–45.
‘“A mi, feirdd, i mewn a chwi allan”: Cynddelw Brydydd Mawr a’i grefft’, yn Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban, goln. Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (Aberystwyth a Chaerdydd, 1996), tt. 143–65.
‘Golwg byr ar fydryddiaeth englynion Dafydd ap Gwilym i’r Grog o Gaer’, Dwned, 1 (1995), 41–53.
Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym ac eraill, gol. Ann Parry Owen (tt. 1–168) a Dylan Foster Evans (Aberystwyth, 1995).
Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II, goln. Ann Parry Owen a Nerys Ann Jones (Caerdydd, 1995), xxii + 449tt.
‘Canu Cynddelw Brydydd Mawr i Dysilio Sant’, yn Ysgrifau Beirniadol XVIII, gol. J. E. Caerwyn Williams (Dinbych, 1992), tt. 73–99.
Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I, goln. Ann Parry Owen a Nerys Ann Jones (Caerdydd, 1991), l + 374tt.