|
Enillodd Cathryn Charnell-White raddau BA a Ph.D. yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Astudiaeth o themâu eschatolegol yw ei doethuriaeth, ‘Y Pedwar Peth Diwethaf – Marwolaeth, Nefoedd, Uffern a’r Farn – yn llenyddiaeth Gymraeg y Ddeunawfed Ganrif’ (Aberystwyth, 2000). Y mae ei diddordebau ymchwil hefyd yn cwmpasu hunaniaeth genedlaethol a rhanbarthol yn llenyddiaeth y ddeunawfed ganrif, ynghyd â chanu menywod yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar. Cathryn yw golygydd y gyfrol arloesol Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005).
Fel aelod o brosiect ‘Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru’| , bu Cathryn yn dadansoddi Barddas a’r Orsedd, gan roi sylw penodol i’r tair prif ffrwd sy’n rhedeg drwyddynt: hunaniaeth genedlaethol, hunaniaeth leol a hunaniaeth bersonol. Trafodir y tair ffrwd hyn yn ei chyfrol Bardic Circles: National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Cardiff, 2007). Ceir yn y gyfrol hefyd ddetholiad o ysgrifau gan Iolo sy’n dangos y themâu hyn ar waith. Y mae Cathryn bellach yn aelod o’r prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’| .
Cyn ymuno â staff y Ganolfan bu Cathryn yn darlithio ar y ddeunawfed ganrif, barddoniaeth merched a llên gyfoes yn Adrannau Cymraeg Aberystwyth (1998–9) a Llanbedr Pont Steffan (2000–02). Y mae’n aelod o Fwrdd Golygyddol Llên Cymru ac o bwyllgor ‘Honno Gwasg Menywod Cymru’, ac y mae hefyd yn canu’r ffidil yng ngherddorfa amatur Philomusica yn Aberystwyth ac yng Ngherddorfa Siambr Llanbedr Pont Steffan.
Cyhoeddwyd ei golygiad o Pererinion a Storïau Hen Ferch gan Jane Ann Jones yng Nghyfres Clasuron Honno ym mis Hydref 2008.
Detholiad o Gyhoeddiadau (gyda Neil Macdonald, Cerys A. Jones and Sarah J. Davies) Historical weather accounts from Wales: an assessment of their potential for reconstructing climate, Weather, March 2010, Cyf. 65, rhif. 3, 72–81.
‘“Megis archoll yw ’ngholled”: Marwnadau Mamau i’w Plant’, yn Ysgrifau Beirniadol XXVIII, gol. Gerwyn Wiliams (Bethesda, 2009), tt. 22–48.
O’r Cysgodion: Llythyrau’r Meirw at y Byw (Aberystwyth, 2007).
Bardic Circles: National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Cardiff, 2007).
‘Women and gender in the private and social relationships of Iolo Morganwg’, yn Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg, gol. Geraint H. Jenkins (Cardiff, 2005), tt. 359–81.
Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (Llandybïe, 2005).
Barbarism and Bardism: North Wales versus South Wales in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Aberystwyth, 2004).
‘Galaru a Gwaddoli ym Marwnadau Williams Pantycelyn’, Llên Cymru, 26 (2003), 40–62.
‘Barddoniaeth Ddefosiynol Catrin ferch Gruffudd ap Hywel’, Dwned, 7 (2001), 93–120.
‘Alis, Catrin a Gwen: Tair Prydyddes o’r Unfed Ganrif ar Bymtheg: Tair Chwaer?’, Dwned, 5 (1999), 89–104.
‘Ellis Wynne a’i ferched’ [menywod a genre GBC (1703)], Barn (Gorffennaf 1998), 37–9.
‘Marwnadau Pantycelyn a Pharagonau o’r Rhyw Deg’, Tu Chwith, 6 (Hydref 1996), 131–41.
|