Ffion Mair Jones MA, PhD

Swydd: Cymrawd Ymchwil, Prosiect Cymru a’r Chwyldro Ffrengig|
e-bost: ffion.jonescymru.ac.uk|
Ffôn:  01970 636543
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad post:

Dr Ffion Mair Jones,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH

Llun o Ffion Mair Jones   

 

 
 


 

 

 

 

 

Y mae Ffion Mair Jones yn gweithio ar y prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’| . Bu ar staff y Ganolfan er mis Hydref 2001, pan y’i penodwyd yn gymrawd ymchwil ar y prosiect ‘Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru, 1740–1918’| . Am y rhan helaethaf o’i chyfnod gyda’r prosiect hwnnw bu’n cyfrannu at y golygiad o ohebiaeth Iolo Morganwg, drwy drawsysgrifio’r testun, ei olygu, ei droednodi a chyfieithu llythyrau a cherddi Cymraeg i’r Saesneg. Cyhoeddwyd y gwaith mewn tair cyfrol ym mis Hydref 2007 dan y teitl The Correspondence of Iolo Morganwg (gweler isod am y manylion). Nodwedd amlwg iawn ar lythyrau’r ohebiaeth a olygwyd yw’r modd y gorchuddiwyd y papur â nodiadau yn llaw Iolo, ar amrywiaeth eang o destunau. Rhoddwyd sylw i'r nodiadau hynny, ynghyd â nodiadau ymyl-dalen Iolo mewn llyfrau o'i eiddo, yng nghyfrol Ffion, 'The Bard is a Very Singular Character': Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture.

Yn fwy diweddar, bu Ffion yn gweithio ar ymatebion Cymreig i'r Chwyldro Ffrengig, gan ganolbwyntio'i sylw ar y baledi Cymraeg a gyhoeddwyd rhwng blynyddoedd cynnar y Chwyldro a diwedd y rhyfeloedd Napoleonaidd. Cyhoeddir detholiad o'r baledi hynny yn fuan, o dan y teitl Welsh Ballads of the French Revolution 1793-1815. Y mae Ffion bellach yn gweithio ar olygiad o anterliwt Gymraeg ynghylch hanes y Chwyldro o waith Huw Jones, Glan Conwy. 

Detholiad o Gyhoeddiadau

'"Gwyr Lloeger aeth benben â'u brodyr eu hunen": Y Baledwyr Cymraeg a Rhyfel Annibyniaeth America', Y Traethodydd, 166 (Hydref 2011), 197-225.

'"To know him is to esteem him": Ifor Ceri (1776-1829)', Casgliadau Maldwyn, 99 (2011), 53-82.

'"A'r Ffeiffs a'r Drums yn Roario": Y Baledwyr Cymraeg, Y Milisia a'r Gwirfoddolwyr', Canu Gwerin, 34 (2011), 18-42.

'Huw Morys and the Civil Wars', Studia Celtica, XLIV (2010), 165-99.

'The Bard is a Very Singular Character': Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture (Caerdydd, 2010).

golygydd, Huw Morys, Y Rhyfel Cartrefol (Bangor, 2008).

‘[M]ae r Stori yn wir iw gweled / yn nghronicle y Brutanied’: Dramateiddiadau Cymraeg o’r ffug-hanes Brytanaidd (Aberystwyth, 2008).

Geraint H. Jenkins, Ffion Mair Jones a David Ceri Jones (goln.), The Correspondence of Iolo Morganwg (3 cyf., Cardiff, 2007). 

‘“Gydwladwr Godi[d]og . . .”: Gohebiaeth Gymraeg Gynnar Iolo Morganwg’, Llên Cymru, 27 (2004), 140–71.

‘Traddodiad, Modernrwydd, Moesoldeb a Miri: Yr Anterliwtiau Cynnar’, yn Geraint H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XIX: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Llandysul, 2004), tt. 97–129.

‘Cerddoriaeth yr Anterliwtiau: Golwg ar le’r caneuon mewn pedair anterliwt enghreifftiol’, Llên Cymru, 26 (2003), 63–86.