Martin Crampin BA, MA

Swydd: Cymrawd Ymchwil, Prosiect Gwydr Lliw yng Nghymru 
e-bost: mccaber.ac.uk|
Ffôn:  01970 636543
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad post:

Martin Crampin,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH

   
  


 


 

 

Ymunodd Martin Crampin â staff y Ganolfan ym 1999 i weithio gyda Peter Lord ar y gyfres o CD-ROMau a oedd yn rhan o’r prosiect Diwylliant Gweledol Cymru.|

Gan adeiladu ar destun y tair cyfrol brintiedig, bu ganddo ran bwysig yn y gwaith o recordio a golygu cyfweliadau, ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am ddarparu ffotograffau ychwanegol ac am y gwaith dylunio.

Ymgartrefodd Martin yn y Ganolfan yn ystod ei gyfnod fel aelod o’r prosiect ymchwil Delweddu’r Beibl yng Nghymru, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Lleolwyd y prosiect hwnnw ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel artist, ymchwilydd a dylunydd, Martin a oedd yn gyfrifol am greu’r gronfa ddata ar-lein a’r DVD-ROM, a ysgrifennwyd gyda John Morgan-Guy. Yn ogystal â dylunio’r wefan a’r DVD-ROM, a recordio a golygu cyfweliadau, tynnodd luniau rhai cannoedd o weithiau celf ar gyfer y prosiect mewn eglwysi a chasgliadau ledled Cymru. 

Wedi i’r prosiect AHRC hwn ddod i ben bu Martin yn gweithio fel cartograffydd a darlunydd ar y Prosiect Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd| , gan ddychwelyd at ei ddiddordeb yn archaeoleg y cyfnod cyn hanes a’r cyfnod canol, a ddatblygwyd yn ystod ei gwrs MA mewn Astudiaethau Celtaidd-Rhufeinig ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.

Ar hyn o bryd y mae’n datblygu ymhellach yr ymchwil a wnaed yn y Prosiect Delweddu’r Beibl yng Nghymru, gan baratoi catalog ar-lein o wydr lliw mewn mannau o addoliad yng Nghymru.

Yn artist gweithredol, y mae Martin wedi arddangos ei waith ledled Cymru a thramor, yn ogystal â gweithio’n annibynnol fel ffotograffydd a dylunydd mewn amrywiol gyfryngau.

Gwefan [http://www.martincrampin.co.uk| ]

 

Detholiad o Gyhoeddiadau

‘Biblical Art from Wales: the Mediaeval Influence’, yn Martin O’Kane a John Morgan-Guy (goln.), Biblical Art from Wales (Sheffield, 2010).

(gyda John Morgan-Guy), Imaging the Bible in Wales (DVD-ROM) (Sheffield, 2010).

‘Interpreting Welsh Medieval Narratives: Exploring Parallel Traditions and Historical Process through Contemporary Art’, Studi Celtici, III (2004), 295–324.

Cyfraniadau i’r CD-ROMau yng nghyfres Diwylliant Gweledol Cymru gan Peter Lord (Caerdydd, 2000, 2002, 2004).

‘Arthur y Saeson’, Tu Chwith, 15 (Haf 2001), 112–14