Ymholiadau

Cyn cysylltu â ni, darllenwch y cwestiynau cyffredin isod i weld a ellir ateb eich ymholiad yma:

FAQsRss FeedAtom Feed

Ateb:

Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Brifysgol Cymru mewn perthynas â datblygiad y broses uno (gweler datganiad i’r wasg -Ymdeimlad o hanes, dechreuad newydd|), rydym yn cydnabod bod gan fyfyrwyr bryderon neu ymholiadau.  Fel sy’n cael ei ddatgan yn gyson, mae gan y Brifysgol ddyletswydd i ofalu am ein myfyrwyr a byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ddyfarniadau Prifysgol Cymru ar hyn o bryd.  Gall myfyrwyr| a chyn-fyfyrwyr| weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i helpu i ateb unrhyw gwestiynau gan fyfyrwyr sy’n dal i bryderu am y newidiadau hyn.

Ateb:

Mae Prifysgol Cymru’n gweithio gyda nifer fawr o Sefydliadau yng Nghymru a thrwy’r byd i gyd – defnyddiwch yr adnodd Chwilio am Gwrs|  i weld os oes cwrs ar gael yn eich gwlad chi.

 Mae cynlluniau astudio a restrir yma yn cael eu dilysu gan Brifysgol Cymru, ond cynghorir darpar fyfyrwyr i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r ganolfan gydweithredol am wybodaeth ynglŷn â dyddiadau derbyn myfyrwyr yn y dyfodol.

 
Ateb:

Rhaid i chi gysylltu â’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl sefydliadau y mae’r Brifysgol yn gweithio gyda nhw ar ein gwefan trwy ddefnyddio’r adnodd Chwilio am Sefydliad|

Ateb:

Mae’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo yn gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â theitheb. Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Asiantaeth Ffiniau’r DU|

Ateb:
Unwaith i ni dderbyn eich manylion cofrestru (yn cynnwys eich cyfeiriad ebost) oddi wrth eich sefydliad, byddwch yn derbyn ebost gennym yn eich croesawu a fydd yn cynnwys eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad ebost) a chyfrinair i ddefnyddio’r Llyfrgell Ar-lein
Ateb:

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r enw defnyddiwr a gadarnhawyd pan oeddech yn cofrestru ar FyLleI| ac yn eich Sefydliad.

Os ydych wedi anghofio neu golli eich cyfrinair, ewch i’r Dudalen Adfer Cyfrinair|, nodwch eich enw defnyddiwr ac fe anfonir ebost atoch gyda’ch cyfrinair

Gofynnwyd i chi pan oeddech yn mewngofnodi am y tro cyntaf a oeddech am ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a ddewiswyd gennych ar gyfer Google i fewngofnodi i FyLleI. Os dewiswyd yr un enw defnyddiwr gennych byddech wedi derbyn ebost yn cadarnhau eich manylion.

Os ydych yn dal i fethu â dod o hyd i’ch enw defnyddiwr yna cysylltwch â’ch sefydliad a byddant yn gallu ei adfer i chi.

Ateb:

Mae gan Brifysgol Cymru ddull gweithredu penodol i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cwyn neu gyflwyno apêl academaidd.

 

Apeliadau gan Fyfyrwyr
Am ragor o wybodaeth ar y dull gweithredu, yn cynnwys meini prawf ac asesiad, neu i gyflwyno apêl cliciwch yma|  neu cysylltwch â
appealscymru.ac.uk|

 

Cwynion gan Fyfyrwyr
Fe ddylech geisio datrys unrhyw anawsterau’n uniongyrchol gyda’ch sefydliad ble bynnag y bo hynny’n bosib.  Os nad yw hynny’n bosib, gellir defnyddio dull gweithredu Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol os ydych yn dymuno cwyno ynglŷn ag agweddau o’ch profiad astudio sydd ddim yn berthnasol i asesiad neu arholiadau
.   Am ragor o wybodaeth cliciwch yma| neu cysylltwch âcomplaintscymru.ac.uk|

Ateb:

Pan fydd eich canlyniadau terfynol wedi eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi Prifysgol Cymru byddant yn cael eu cofnodi ar system cofnodion myfyrwyr y Brifysgol. Byddwch yn derbyn eich dyfarniad in absentia a bydd eich tystysgrif a’ch Atodiad Diploma yn cael eu hanfon at eich sefydliad astudio|.

Ateb:

Am wybodaeth ynglŷn â chanlyniadau eich gradd / traethawd hir, cysylltwch â’ch man astudio. Yn anffodus ni all y Brifysgol ddarparu eich canlyniadau trwy gyfrwng ebost nac ar y ffôn.

Ateb:

Gallwch.  Os yw eich tystysgrif wedi ei ddifrodi byddwn yn anfon tystysgrif amnewid am ddim ar dderbyn y gwreiddiol. Codir ffi o £30 i amnewid tystysgrifau coll.

Cliciwch yma| am ragor o wybodaeth.

Arddangos 1 I 11 O 11


Os hoffech barhau i wneud ymholiad yna defnyddiwch y blwch isod, gan gyfeirio at yr adran briodol:

In: Ffurflenau