|
|
Gorffen ysgrifennu'r Geiriadur
Gorffen ysgrifennu'r drafft cyntaf o'r Geiriadur
Ar 6 Rhagfyr 2001 lluniwyd yr
erthygl olaf i'r Geiriadur ar ôl 80 mlynedd o waith, a thros hanner
canrif o lunio erthyglau. Y gair olaf yn y Geiriadur yw
Zwinglïaidd, sef 'yn perthyn i athrawiaeth y diwinydd Zwingli'.
Cyhoeddwyd y gyfrol olaf ar ddiwedd 2002. Y cam nesaf
Er dechrau 2002 y mae staff Geiriadur Prifysgol
Cymru wrthi'n adolygu'r rhannau cynharaf o'r Geiriadur sy'n trafod geiriau
sy'n dechrau â'r llythrennau A a B. Paratowyd y rhain
ar gynllun llawer cynilach na gweddill y gwaith. Seilir yr ail olygiad hwn
ar lawer o ddeunydd newydd, ac fe'i cyhoeddir rhwng 2003 a 2011 fel ail
argraffiad o A-B. Cyhoeddir y Geiriadur mewn rhannau fel o'r blaen
gan Wasg Prifysgol Cymru. Bydd gostyngiad i danysgrifwyr rheolaidd i'r gwaith.
Bydd gwaith mewn llaw ar gael yma ar wefan y
Geiriadur, ac yn ystod y gwaith o adolygu A-B cyhoeddir fersiwn cryno
o'r holl Eiriadur ar lein am ddim.
(Ni fydd y fersiwn ar lein yn cynnwys y dyfyniadau enghreifftiol na'r tarddiadau
a geir yn y cyfrolau printiedig.)
Mae cynlluniau ar gyfer rhan nesaf y gwaith yn cael eu trafod ar hyn o bryd. |
|
|
|
|||
![]() |
Rhodder
gwybod i geiriadur@aber.ac.uk os ceir
trafferth wrth ddefnyddio'r safle hwn. |
|||