Cyfarwyddiadau i ddarllenwyrD.S. Cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi slipiau ysgrifenedig yw'r rhain: os ydych am baratoi slipiau electronig drwy bost-e, gweler slip-e. Dyma enghraifft o slip:
1. Coder unrhyw eiriau, idiomau, ymadroddion etc., sy'n anghyfarwydd neu'n ddieithr i chi, neu eiriau cyfarwydd a ddefnyddir mewn cyd-destun anarferol etc. H.y. coder unrhyw beth a dybiwch chi sy'n werth ei nodi. 2. Nid oes eisiau codi enwau lleoedd nac enwau personol.
3. Noder y gair yn ei ffurf
unigol. Os yw'r gair yn lluosog yn y dyfyniad, rhodder y ffurf unigol
ar gornel chwith uchaf y slip. e.e. Rhoais iddi rhyw swyddau
Rhugl foliant o'r meddiant mau.
(coder o dan swydd)
4. Wrth godi berf, rhodder
y person cyntaf presennol a'r berfenw ar gornel chwith uchaf y
slip. e.e. Gweddïais, nid gwedd eofn, /
Dan gêl, megis dyn ag ofn.
(coder o dan gweddïaf: gweddïo)
5. Wrth godi ansoddair, rhodder
y ffurf gysefin bob tro. e.e. Ni welais y môr erioed yn lasach
(coder o dan glas)
6. Coder ymadroddion, dywediadau
etc. o dan yr elfen gyntaf. e.e. Penderfynodd John roi pen ar y mwdwl am
ddeg o'r gloch, ac aeth adref o'r swyddfa
(coder fel hyn: rhoddaf: rhoddi - rhoi pen ar y mwdwl)
7. Wrth ysgrifennu'r dyfyniad ar y slip, tanlineller y gair dan sylw bob tro. 8. Y mae croeso i chi ychwanegu unrhyw wybodaeth neu sylw ar slip. Rhowch gylch am unrhyw ychwanegiad o'r fath. D.S. Defnyddiwch y botwm 'back' i fynd yn ôl i'r tudalen gwreiddiol. |
![]() |
|
Rhodder
gwybod i geiriadur@aber.ac.uk os ceir
trafferth wrth ddefnyddio'r safle hwn. |
|||